1 Plygu rhag llit yrydwyf
2 pla ar holl verchet y plwyf
3 am na cheveis dreis drawshoet
4 o naddvn yr vn erioet
5 na morwyn vwyn o veneic
6 na merch vach na gwrach na gwreic
7 py russiant py ddireidi
8 py vethiant na vynnant vi
9 py ddrwc i riain vainael
10 ynghoet tywylldew ynghael
13 ny bv amser na charwnn
14 ny bv mor lvt hvt a hwnn
15 annat gwr vnoet garwy
16 yn y dydd ai vn ai dwy
17 ac er hynny nit oedd nes
18 ym gael vn nom gelynes
19 ni bv svl yn llanbadarn
20 na bewn ac eraill am barn
21 am hwyneb at y vun goeth
22 am gwegil at dduw gwiwgoeth
23 achwedi /r/ hir edrychwyf
24 dros vymlhu ar draws vymlhwyf
25 [16v] Se dyweit vn yn befrgroyw
26 wrth y llall hawdd ddyall hoyw
29 Y mab llwyt wyneb mvrsen
30 a gwallt i chwaer ar i benn
27 godinebus vydd golwc
28 gwyr i ddrem garv i ddrwc
31 ai /n/ rrith hynny yw gantaw
32 yw geir y llall geir i llaw
33 atteb nis keiff tra vo byt
34 wttet i ddiawl beth ynvyt
35 talmith ym rrec y loywverch
36 tal bychan am syfrdan serch
37 rheid oedd ym vedru peidiaw
38 ar voes honn vrevddwydvronn vraw
39 gorev ym vynet val gwr
40 yn veydwy swydd anvadwr
41 o dra disgwyl dysgiat kerth
42 drach ynghefn drych anghyvnerth
43 nev /r/ dderyw ym gerddrym gar
44 benngamv heb vn gymar
davyt ap glim' ai kant
Darlleniadau Amrywiol
Exr per vetust
25 Syganai y fun
29 Dafydd
40 ynvydwr
Ceir marciau " wrth ymyl llau. 27, 28, 37, 38