1 Plygu rhag llid ir ydwyf
2 pla ar holl verched y plwyf
3 am na chevais drais draisoed
4 o naddvn yr vn erioed
5 na morwyn vwyn o venaig
6 na merch vach na gwrach na gwraig
7 pa rhisiant pa ddiraidi
8 pa vethiant na vynnant vi
9 pa ddrwg i rhiain vainael
10 ynghoed tywylldew ynghael
13 ny bv amser na cherwn
14 ny bv mor lvd hyd a hwnn
15 anad gwr vn da garwy
16 yny dydd au vn au dwy
17 ag er hynny nidoedd nes
18 ym gael wenn nam gelynes
19 yn bv sul yn llann badarin
20 na bewn ag eraill am barn
21 am hwyneb at y vvn goeth
22 am gwegil at dduw gwiwgoeth
23 a chwedy hir edrychwyf
24 dros vymlv ar draws vymlwyf
25 vo ddywaid vn yn befrgroew
26 wrth y llall hawdd ddeall hoew
29 y mab llwyd wyneb Mersen
30 a gwallt i chwaer ar i benn
27 godinebys vydd golwg
28 gwyr i ddrem garu i ddrwg
31 ai n rhith hynny yw gantaw
32 yw gair y llall geyr i llaw
33 ateb nys kaiff try vo byd
34 wted i ddiawl beth ynfyd
35 tal ym nyth rheg y loewferch
36 tal bychan am syfrddan serch
37 rhaid oedd ym vedry paidaw
38 ar voes honn vraiddwydon vraw
39 gorav ym vyned val gwr
40 yn vaudwy swydd anfadwr
41 o dra disgwyl dysgiad kerth
42 drych ynghefn drych anghyfnerth
43 ve dderyw ym gorddrym gar
44 benn gamv heb vn gymar
Davydd ap Gwilym ai kant