â â â Merch yn Ymbincio
1â â â Rhai o ferched y gwledydd,
2â â â Se'i gwnân ar ffair, ddinan ddydd,
3â â â Rhoi perls a rhubi purloyw
4â â â Ar eu tâl yn euraid hoyw,
5â â â A gwisgo rhudd, mwyfudd merch,
6â â â A gwyrdd, gwae ni fedd gordderch.
7â â â Ni welir braich, goflfaich gael,
8â â â Na mwnwgl un dyn meinael
9â â â Heb yn ei gylch, taerwylch tes,
10â â â Baderau, bywyd eres.
11â â â Ai rhaid i'r haul, draul dramwy,
12â â â O'r lle mae geisio lliw mwy?
13â â â Nid rheidiach i'm byd rhydeg
14â â â Rhoi rhactal am y tâl teg
15â â â Nac edrych draw'n y gwydryn;
16â â â Da iawn yw gwedd y dyn gwyn.
17â â â Y bwa yw ni bo iach,
18â â â Rhier dau hanner haeach,
19â â â I gyfranc, ddidranc ddodrefn,
20â â â Ag aur y lliwir ei gefn;
21â â â Ac er mawrwerth y gwerthir
22â â â Y bwa hwn, gwn mae gwir.
23â â â Ni thebygir, gwir gofiad,
24â â â Mewn peth teg fod breg na brad.
25â â â Mair! ai gwaeth bod y mur gwyn
26â â â Dan y calch, doniog cylchyn,
27â â â No phe rhoddid, geubrid gwr,
28â â â Punt er dyfod i'r peintiwr
29â â â I beintio'n hardd bwyntiau'n hoyw,
30â â â Lle arloes â lliw eurloyw
31â â â A lliwiau glân ychwaneg,
32â â â A lluniau tarianau teg?
33â â â Dilys, fy nghorff, lle delwyf,
34â â â Deuliw'r sêr, dolurus wyf.
35â â â Dithau, difrodiau dy frawd,
36â â â Dynyn danheddwyn haeddwawd,
37â â â Gwell wyd mewn pais wenllwyd wiw
38â â â Nog iarlles mewn gwisg eurlliw.