Merch yn Ymbincio
Mae'n arferiad gan rai o ferched y bröydd
adeg ffair, diwrnod difyr,
roi perlau a rhuddemau pur a disglair
4 ar eu talcen yn euraidd sgleiniog,
a gwisgo coch, sy'n fanteisiol i ferch,
a gwyrdd, gwae ef sydd heb gariad.
Ni welir braich, a fyddai'n faich wrth gofleidio,
8 na gwddf un ferch fain ei haeliau
heb fod o'i amgylch, mae gwres yn eu llathru'n ddwys,
leiniau, bywyd rhyfeddol.
A raid i'r haul ar daith lafurus
12 o'r lle y mae geisio mwy o liw?
Nid rheitiach i'm cariad eithriadol o brydferth
roi rhwymyn ar ei thalcen teg
nac edrych draw'n y drych;
16 rhagorol yw gwedd y ferch hardd.
Y bwa o bren ywen nad yw mewn cyflwr addas,
(cyfrifer bron yn ddau hanner)
ar gyfer brwydr, arf na ladda,
20 fe liwir ei gefn ag aur;
ac fe werthir am bris uchel
y bwa hwn, gwn fod hyn yn wir.
Does neb yn tybio, dyna'r gwir amdani,
24 fod bai na thwyll mewn rhywbeth hardd.
Mair! A yw'n waeth bod y mur gwyn
dan wyngalch, gorchudd buddiol,
na phe rhoddid, tâl anheilwng gwr,
28 punt i'r peintiwr am ddod
i beintio'n hardd rannau [o arfbeisiau] cain,
y lle gwag â lliw disglair euraidd
a lliwiau prydferth eraill,
32 a lluniau tarianau heirdd?
Yn wir, mae fy nghorff, ble bynnag y deuaf,
un mor ddisglair a'r sêr, yn ddolurus.
Ti sy'n dinistrio dy anwylyd,
36 merch fechan â dannedd gwynion sy'n haeddu mawl,
gwell wyt mewn ffrog lwyd golau weddus
nag iarlles mewn gwisg euraidd.