Nodiadau: 138 - Merch yn Ymbincio

GDG 49

Yn y cywydd hwn mae Dafydd yn cwestiynu'r modd y mae merched yn eu haddurno'u hunain â cherrig gwerthawr a pherlau. Mae'n mynnu nad oes angen iddynt wisgo tlysau i fod yn dlws. Yn yr un modd, meddai, nid oes angen mwy o liw ar yr haul ac ni raid peintio patrymau lliwgar ar wal wedi ei wyngalchu. Mae'n gorffen drwy ddatgan fod ei gariad yn harddach wedi ei gwisgo'n syml a diaddurn nag iarlles yn ei dillad ysblennydd.

Ceir 14 copi llawysgrif o'r cywydd hwn, ac fe ymddengys mai'r Vetustus oedd ffynhonnell uniongyrchol neu anuniongyrchol pob un. Y copïau yn H 26, Ll 120 a Pen 49 yw'r rhai agosaf at y Vetustus, ac arnynt hwy y seiliwyd y testun golygedig.

Cynghanedd: sain 15 ll. (39%); traws 14 ll. (37%); croes 6 ll. (16%); llusg 3 ll. (8%).

2. se'i gwnân'   Dilynir H 26, se i gwnan. Dilynwyd Ll 120 a LlGC 560 yn GDG, sef gwnân', ond disgwylid cymal perthynol a threiglo'r ferf (gw. nifer o enghreifftiau o'r ymadrodd sef a wnaeth a ddyfynnir yn GPC 3201). Y rhagenw ei sydd yma, a fe'i ceseilir ar ôl y llafariad, gw. GPC 3202 lle nodir y ffurf amrywiol se. Cymh. 70.29.

ddinan    ffurf amrywiol ar diddan. Dyma ddarlleniad LlGC 560 a Ll 120, ac mae copïydd M 212 yn ei gywiro'i hun gan roi ddidnan. Ddinam sydd yn H 26 a Pen 49, ond cywiriwyd i ddinan er mwyn yr odl yn Pen 49. Ni cheir enghraifft arall o'r ffurf hon, ond nodir tair enghraifft o'r ffurfiau dinanu a dinanwch o Frut y Llyfr Coch yn G 331–2 svv. diddanu a diddanwch, sef, Ac yn hynny o yspeit yd oed urutus yny dinanu (RB 51.17); Y dryll arall or dyd ar nos adreulvyt drvy amryuaelyon gerdeu. adinanvch (88.9–10); A dinanvch y gvlat oed a hael vrth bavb (269.20–1). Mae'n sicr, felly, mai ddinan oedd darlleniad y Vetustus, ac nid oes angen diwygio i ddiddan fel y gwnaeth Parry. Ond mae'n bosib serch hynny mai ddiddan oedd y darlleniad gwreiddiol, gan fod cyfatebiaeth y gynghanedd yn llawnach.

3.    Ceir b a p yn ateb p yn y gynghanedd.

9. taerwylch.    Derbyniodd Thomas Parry awgrym Ifor Williams (DGG 183) mai ffurf luosog gwalch yw'r ail elfen, ond ni nodir enghraifft arall o'r ffurf hon ac nid yw mewn gwirionedd yn addas yma. Mwy tebygol fyddai ffurf 3 unigol g[w]olchi yn yr ystyr gloywi, puro (GPC 1446), a cheir enghraifft o'r ffurf hon yng ngwaith Cynddelw; gwych y gwylch y gweilch amddiffyn (GCBM I 20.55).

10. paderau.    Daw'r gair pader, sef gweddi, o eiriau cyntaf Gweddi'r Arglwydd yn Lladin, Pater noster, a'r ffurf luosog yn aml yn cyfeirio at y llaswyr neu'r rosari a ddefnyddid i rifo gweddïau. Yr ystyr yma yw gleiniau yn gyffredinol.

13.    n wreiddgoll.

18 rhier    Nodir y ffurf amrywiol rhio yn GPC ond hon yw'r unig enghraifft. Mae'n bosib nad oedd angen ateb yr f ar gyfer y gynghanedd ond i'r copïydd geisio cywiro'r llinell drwy hepgor y llythyren. Gellid felly ystyried diwygio'r testun gan darllen rhifer.

19 didranc    Mae dau bosibilrwydd yma, sef na fydd yr arf byth yn darfod neu na fydd byth yn lladd neb. Haws yw derbyn yr ail bosibilrwydd o gofio cyflwr adfydus y bwa.

22. mae    Fe geir y ffurf ddiweddar mai yn Pen 49, dan ddylanwad Beibl 1588 mae'n debyg (gw. WG 348).

28 i'r peintiwr   Nid oes tystiolaeth lawysgrifol o blaid darlleniad GDG, o'r peintiwr, ac felly rhaid mai rhoddi...i yw'r gystrawen.

29 pwyntiau   Ystyr herodrol sydd yma gan gyfeirio at rannau o arfbais teulu a fyddai wedi ei beintio ar fur y cartref (GPC 2951). Ategir hyn wrth i Ddafydd fynd ymlaen i ddweud fod y peintiwr yn peintio lluniau tarianau teg (ll. 32).

30 arloes   Ceir y ddwy ffurf arloes ac arlloes gan Ddafydd, cfr. A'r Llystyn yn arlloesty (5.56).