1 Rhai o ferched y gwledydd
2 A wnan ar ffair ddinamn ddydd
3 Rhoi perlys a Rhvbi pvrloyw
4 Ar i tal yn evraid hoyw
5 A gwisgo Rhvdd mwyfvdd merch
6 A gwyrdd gwae ni fedd gordderch
7 [105v] Ni welir braich goflfaich gael
8 na mwnwgl vn dyn meinael
9 heb yn i gylch taerwylch tes
10 badereu bywyd eres
11 Ai rhaid ir havl dravl drammwy
12 Or lle mae geisio lliw mwy
13 Nid rheidiach i m byd rhydeg
14 Rhoi rhactal am y tal teg
15 Nac edrych draw'n y gwydryn
16 Da iawn yw gwedd y dyn gwyn
17 Y bwa yw ni bo iach
18 Rhier dau hanner hayach
19 I gyfrangc ddidrangc ddodrefn
20 Ac avr y lliwir i gefn
21 Ac er mawrwerth y gwerthir
22 Y bwa hwnn gwn mai gwir
23 Ni thybygir gwir gofiad
24 Mewn peth teg bod breg na brad
25 Mair ai gwnaeth bod y mvr gwyn
26 dan y calch doniog cylchyn
27 [106r] Na phe rhoddid gevbrid gwr
28 Pvnt er dyfod ir paentiwr
29 I baentio'n hardd bwyntie'n hoyw
30 lle arloes a lliw evrloyw
31 A lliwiau glân ychwaneg
32 A llvniav tariannav teg
33 Dilys fynghorph lle delwyf
34 Devliw'r ser dolvrvs wyf
35 Dithe difrodie dy frawd
36 dynyn dannheddwyn haeddwawd
37 Gwell wyd mewn pais wenllwyd wiw
38 Nag iarlles mewn gwisc evrlliw
Da' ap Glm'