1 Rhai o ferched y gwledydd
2 sef gwnan ar ffair ddinan ddydd
3 Rhoi y perls a rhyw purloew
4 ar eu tal yn euraid hoew
5 A gwisco rhudd mwy fudd merch
6 A gwyrdd-gwae ni fedd gordderch
7 Ni welir braich goflfaich gael
8 Na mwnwgl vn dyn meinael
9 heb yn ei gylch taer wylch tes
10 Badereu bywyd eres
11 Ai rhaid ir haul draul dramwy
12 o'r lle mae geissio lliw mwy
13 Nid rheidiach im byd rhydeg
14 roi rhagtal am y tal teg
15 Nac edrych draw 'n y gwydryn
16 da iawn yw gwedd y dyn gwyn
17 y bwa yw ni bo iach
18 Rier dau hanner haiach
19 I gyfrangc ddidrangc ddodrefn
20 ag aur y lliwir ei gefn
21 Ac er mawrth werth y gwerthir
22 Y bwa hwn gwn mae gwir
23 Ni thebygir gwir gofiad
24 Mewn peth teg fod breg na brad
25 Mair ai gwaeth bod y mur gwyn
26 dann y calch donnioc cylchyn
27 No phe rhoddid geubrid gwr
28 punt er dyfod i'r peintiwr
29 I beintio'n hardd bwyntiau'n hoew
30 lle arloes a lliw eurloew
31 A lliwiau glan y chwaneg
32 A lluniau tariannau teg
33 dilys fyng-horph lle y delwyf
34 deuliw'r ser dolurus wyf
35 Dithau difrodiau dy frawd
36 dynyn danhedd-wyn haedd-wawd
37 Gwell wyt mewn pais wen llwyd [ ]
38 Noc Iarlles mewn gwisc eurlliw
dd'ap Gwilym