ko: i ganmol y ferch nid i dillad
1 Rai o verched y gwledydd
2 se i gwnan ar phair ddinam ddydd
3 rhoi perlys a rhubi purloyw
4 ar i tal yn euraid hoyw
5 a gwisgo rhudd mwyvvdd merch
6 a gwyrdd gwae ni vedd gordderch
7 ni welir braich goflvaich gel
8 na mwnwgl vn dyn meinael
9 heb yn i gylch taerwylch tes
10 Badere bywyd eres
11 ai rhaid i haul draul dramwy
12 or lle mae geisio lle mwy
13 nid rheidiach i'm bvn rhydeg
14 rhoi rhactal am y tal teg
15 nag edrych draw'n y gwydryn
16 da iawn yw gwedd y dyn gwyn
17 y bwa yw ni bo iach
18 rhier dau haner hayach
19 i gyvranc ddidranc ddodrefn
20 ag aur y llifir i gefn
21 ag er mowrwerth i gwerthir
22 y bwa hwn gwn mae gwir
23 ni thebigir gwir gofiad
24 mewn peth teg bod breg na brad
25 mair ai gwaeth bod y mur gwyn
26 dan y calch doniog cylchyn
27 no phe rhoddid geubrid gwr
28 punt er dyvod ir paentiwr
29 i baentio'n hardd bwyntie'n hoyw
30 lle arloys a lliw eurloyw
31 a lliwiae glan ychwaneg
32 a lluniae tarianae teg
33 dilis vynghorph lle delwyf
34 deuliwr ser dolurus wyf
35 dithae divrodiae dy vrawd
36 dynyn danheddwyn haeddwawd
37 gwell wyd mewn pais wenllwyd wiw
38 nog iarlles mewn gwisg eurlliw
Dauid ap Gwilim