â â â Gwahanu
1â â â  Fal yr oeddwn ymannos,
2â â â  Druan iawn, am draean nos
3â â â  Yn rhodio, rhydaer ddisgwyl,
4â â â  Rhy addwyn oedd, rhyw ddyn wyl,
5â â â  Ger llys Eiddig a'i briod,
6â â â  Gwaeddai i'm ôl pe gwyddai 'mod,
7â â â  Edrychais, drychaf drymfryd,
8â â â  Tew gaer, gylch y ty i gyd.
9â â â  Cannwyf drwy ffenestr wydrlen,
10â â â  Gwynfyd gwyr oedd ganfod gwen,
11â â â  Llyna ganfod o'm ystryw
12â â â  Yr un fun orau yn fyw.
13â â â  Llariaidd oedd llun bun bennwyr
14â â â  A'i lliw fal Bronwen merch Llyr.
15â â â  Nid oedd lun dydd oleuni
16â â â  Na haul wybr loywach no hi.
17â â â  Mawr yw miragl ei gwynbryd.
18â â â  Mor deg yw rhag dyn byw o'r byd.
19â â â  Mynnais gyfarch gwell iddi.
20â â â  Modd hawdd ymatebawdd hi.
21â â â  Doethom hyd am y terfyn
22â â â  Ein dau. Ni wybu un dyn.
23â â â  Ni bu rhyngom uwch trigair.
24â â â  O bu ni wybu neb air.
25â â â  Ni cheisiais wall ar f'anrhaith.
26â â â  Pe ceisiwn, ni chawswn 'chwaith.
27â â â  Dwy uchenaid a roesom
28â â â  A dorrai'r rhwym dur yrhôm.
29â â â  Ar hynny cenais 'Yn iach,
30â â â  Feinir'. Ni bu neb fwynach.
31â â â  Un peth a wnaf yn fy myw:
32â â â  Peidio â dwedyd pwy ydyw.