Gwahanu
Fel yr oeddwn y noson o'r blaen,
yn bur druenus, gyda'r hwyr,
yn cerdded, yn eiddgar iawn [fy] nisgwyliadau
4 [am] ryw ferch fonheddig, [un] addfwyn iawn ydoedd,
ger llys Eiddig a'i [wraig] briod,
gwaeddai ar fy ôl pe gwyddai fy mod [yno],
edrychais, trist a thruenus iawn [oedd fy] ysbryd,
8 o amgylch y ty i gyd, [yr oedd megis] caer rymus.
Canfûm trwy len wydr y ffenestr,
[testun] llawenydd i [bob] dyn fyddai gweld merch brydferth [fel
hon],
dyma weld yn sgil fy ngweithred
12 yr un lodes orau sy'n fyw.
Hynaws oedd ffurf y ferch wylaidd
[y mae] ei gwedd fel Branwen ferch Llyr.
Nid oedd ffurf goleuni'r dydd
16 yn fwy disglair na hi na haul yr wybren [ychwaith].
Rhyfeddod fawr yw ei phryd disglair.
Mae ei thegwch yn rhagori ar [degwch pob] merch [arall] yn y byd
cyfan.
Mynnais ei chyfarch
20 [ac mewn] dull parod ymatebodd hithau.
Daeth y ddau ohonom hyd at y ffin.
Ni chafodd neb arall wybod [am hyn].
Ni bu rhagor na thri gair rhyngom.
24 Os [felly y] bu ni chafodd neb arall glywed [yr un] gair.
Ni cheisiais gan fy anwylyd gyfeiliorni.
Pe byddwn yn ceisio ni fyddwn wedi cael [hynny ganddi]
ychwaith.
Rhoesom ddwy ochenaid
28 a [oedd yn fodd i] dorri'r cwlwm cadarn a oedd rhyngom.
Gyda hynny dywedais 'Ffarwél,
Y ferch ifanc'. Ni bu neb yn fwy annwyl na hi.
Gwnaf un peth tra byddaf byw:
32 ymatal rhag datgelu pwy ydyw.