1 Fal yr oeddwn ymannos
2 druan iawn am drayan nos
3 yn rodio rydayr ddisgwyl
4 ry addwyn oedd y ddyn wyl
5 gaer llys eiddig ai briod
6 gwaedde im ol pe gwydde y mod
7 Edrychais drychaf drymvryd
8 tew gaer gylch y ty i gyd
9 annwyf drwy ffenestr wydrlen
10 gwnfyd gwyr oedd ganfod gwen
11 llyna ganvod om ystryw
12 yr vn fvn orev yn fyw
13 llariaidd yw llvn bvn benn wyr
14 ar lliw mal bronvraith merch llyr
15 Nid oedd lvn dydd olevni
16 Na havl wybr loywach na hi
17 Mawr yw miragl i gwyn bryd
18 Mor deg yw rhag dyn byw or byd
19 Mynnais gyvarch gwell iddi
20 Modd hawdd im attebawdd hi
21 doythom hyd am y tervyn
22 yn dav ni wybv vn dyn
23 ni bv ryngom vwch trigair
24 o bv ni wybv neb air
25 Ni cheisiais wall ar vanrhaith
26 pei keisiwn ni chowswn chwaith
27 dwy vchenaid a roesom
28 a dorrai rwym dvr yrrom
29 ar hynny kenais yn iach
30 veinir ni bv neb fwynach
31 vn peth a wnaf yn fy myw
32 peidio a doedyd pwy ydyw
Dauid ap Gwilim i kant