â â â Y Llw
1â â â Caru'r wyf, gwaith hynwyf gwyllt,
2â â â Eneth ddiseml, nith Esyllt.
3â â â Lliwydden wylltwen walltaur,
4â â â Llawn yw o serch, llinos aur,
5â â â Cyfliw Fflur ac eglurwawn,
6â â â Cangen gethinwen goeth iawn.
7â â â Meddai rai ym, rym rwymserch,
8â â â 'Gwra y mae gorau merch
9â â â Eleni, ail Eluned,
10â â â Oroen crair, oeryn a'i cred'.
11â â â Ni feiddiaf, anhy feddwl,
12â â â (Gwae'r bardd a fai gywir bwl!)
13â â â Deune'r haf, dwyn y rhiain
14â â â I drais, unlliw blodau'r drain.
15â â â Ei chenedl feilch, gweilch Gwynedd,
16â â â Gorau'n gwlad, gwerin ei gwledd,
17â â â A'm lladdai am ei lluddias
18â â â I briodi'r gwr, brwydr gas!
19â â â Oni chaf, araf eurair,
20â â â Hon i mi, liw hoywne Mair,
21â â â Nid oes, mau einioes annudd,
22â â â I'm bryd o gwbl ddifri brudd,
23â â â Myn delw Gadfan - ai dilyth? -
24â â â A'r grog fyw, fynnu gwraig fyth.