Y Llw
Caru'r wyf, gwaith nwyfus gwyllt,
eneth fonheddig, nith Esyllt.
Peintwraig fechan wen a gwyllt â gwallt euraid,
4 llawn yw o serch, nico [ydyw],
o'r un lliw â Fflur a gwawn disglair,
cangen goeth iawn [o liw] gwyn ffyrnig.
Meddai rhai imi, serch rhwymedig grymus,
8 'Cymryd gwr y mae'r ferch orau
eleni, ail Eluned,
lawenydd trysor, dyn trist sy'n ymddiried ynddi!'
Ni feiddiaf, meddwl llwfr,
12 (gwae'r bardd a fo'n ffwl cywir!)
ddeuliw'r haf, gymryd y ferch
trwy drais, un lliw â blodau'r drain.
Ei theulu balch, gweilch Gwynedd,
16 gorau ein gwlad, llu ei gwledd,
a'm lladdai am ei rhwystro
rhag priodi'r gwr, brwydr gas!
Oni chaf, un fwyn â gair euraidd,
20 hon imi [fy hun], liw harddwedd Mair,
nid oes, fy einioes cuddiedig,
o gwbl yn fy mryd difri a phrudd,
myn delw Cadfan - ai di-feth? -
24 a'r grog fyw, fynnu gwraig fyth.