K: i forfudd
1 karu rwyf gwaith hirnwyf gwylld
2 eneth ddisyml nith esyllt
3 lliwydden wylldwen walldaur
4 llawn yw o serch llinos aur
5 kyfliw fflur ag eglurwawn
6 kangen gethinwen goeth iawn
7 meddai ym rym rwymserch
8 gwra y mae gorau merch
9 eleni ail eluned
10 oroen krair oeryn ai kred
11 ni feiddiaf anyf feddwl
12 gwae r bardd a fu gywir bwl
13 deune r haf dwyn y rhiain
14 i drais unlliw blodau r drain
15 i chenedl feilch gweilch gwynedd
16 gorau in gwlad gwerin i
gwledd
17 am lladdai am i lluddias
18 briodi r gwr brwydr gas
19 oni chaf araf eurair
20 hon i mi lin hoewne mair
21 nid oes mann einoes annudd
22 im bryd o gwbl difri brudd
23 myn delw gadfan ai dilyth
24 ar grog fyw fynnu gwraig fyth
dd ap Gwilim