â â â Llw Gau
1â â â Y ferch anllad a'm gwadawdd,
2â â â Orlliw haul, ar ei llw hawdd,
3â â â Cam iawn wedy'r cymwynas,
4â â â Â'r geiriau glud i'r grog las,
5â â â Wych eurddyn, o chyhyrddawdd
6â â â Ymi â hi, amau hawdd,
7â â â Eiliw Enid, lw anoeth,
8â â â Elid yn ôl, aelod noeth.
9â â â Do do law, da deuluwas,
10â â â Dawn i'i bardd, do enau bas;
11â â â Do ddwyfron dan fedwfron fad,
12â â â Do ddeufraich, nid oedd afrad;
13â â â Do bob cyfryw byw o beth,
14â â â Digri sôn, do groesaneth.
15â â â Deddyw o'i phen lw diddim,
16â â â Do do - o gwyr Duw ado dim.