Edited Text: 141 - Llw Gau

Llw Gau

Y ferch anllad a'm gwadawdd,
Orlliw haul, ar ei llw hawdd,
Cam iawn wedy'r cymwynas,
4 Â'r geiriau glud i'r grog las,
Wych eurddyn, o chyhyrddawdd
Ymi â hi, amau hawdd,
Eiliw Enid, lw anoeth,
8Elid yn ôl, aelod noeth.

   Do do law, da deuluwas,
Dawn i'i bardd, do enau bas;
Do ddwyfron dan fedwfron fad,
12Do ddeufraich, nid oedd afrad;
Do bob cyfryw byw o beth,
Digri sôn, do groesaneth.
Deddyw o'i phen lw diddim,
16Do do – o gŵyr Duw ado dim.