Llw Gau
Fe'm gwrthddywedodd y ferch angerddol [
neu anniwair],
o'r un disgleirdeb â'r haul, ar ei llw rhwydd,
cwbl anghyfiawn ar ôl y ffafr,
4 â'r geiriau taer i'r groes lwyd,
merch olau ysblennydd, [ar boen ei henaid] os bu
i un o'm haelodau noeth gyffwrdd â hi, amheuaeth hawdd,
[merch o'r] un lliw ag Enid, llw rhyfeddol,
8 boed iddo gael ei dynnu'n ôl.
Do do [fe gyffyrddodd] llaw, bardd serch da,
rhodd i'w bardd, do min y geg,
do bronnau dan allt fedw dda,
12 do breichiau, nid oedd yn wastraff;
do pob rhan o'n cyrff,
chwedl hyfryd, do [fe ddigwyddodd] anlladrwydd.
Daeth llw diwerth o'i cheg,
16 do do - os gwyr Duw adael unrhyw beth o gwbl [heb ei
wneud].