Llw Gau
    Fe'm gwrthddywedodd y ferch angerddol [
		  neu anniwair],
    o'r un disgleirdeb â'r haul, ar ei llw rhwydd,
    cwbl anghyfiawn ar ôl y ffafr, 
4    â'r geiriau taer i'r groes lwyd,
   merch olau ysblennydd, [ar boen ei henaid] os bu 
   i un o'm haelodau noeth gyffwrdd â hi, amheuaeth hawdd,
   [merch o'r] un lliw ag Enid, llw rhyfeddol,
8   boed iddo gael ei dynnu'n ôl.
   Do do [fe gyffyrddodd] llaw, bardd serch da,
   rhodd i'w bardd, do min y geg,
   do bronnau dan allt fedw dda,
12   do breichiau, nid oedd yn wastraff;
   do pob rhan o'n cyrff,
   chwedl hyfryd, do [fe ddigwyddodd] anlladrwydd.
   Daeth llw diwerth o'i cheg,
16   do do - os gwyr Duw adael unrhyw beth o gwbl [heb ei
		  wneud].