GDG 55
Dyma un o gywyddau byrraf Dafydd ap Gwilym—mae o'r un hyd ag 'Yr Annerch' (42) a dim ond 'Edifeirwch (106) ac 'Y Drindod' (3) sy'n fyrrach. Pwnc y gerdd yw llw gan ferch nad oedd yr un o'i haelodau noeth wedi cyffwrdd ag aelod noeth o eiddo'r bardd. Honnir mai llw gau oedd hwnnw, a rhestrir yr aelodau a gyffyrddodd â'i gilydd, gan awgrymu yn y diwedd iddynt gael cyfathrach rywiol gyflawn.
Cynghanedd: croes 9 ll. (56%), traws 4 ll. (25%), sain 2 ll. (13%), llusg 1 ll. (6%). Mae'r ganran o gynghanedd groes yn anarferol o uchel, a'r ganran o gynghanedd sain yn gyfatebol isel. Ond gan nad yw'r gerdd ond 16 ll. o hyd nid yw'r ystadegau hyn yn ystyrlon iawn.
Ceir pedair ffynhonnell gynnar, sef Ll 27 (Llyfr Coch Talgarth), Llyfr Gwyn Hergest (copi yn Pen 49, ac amrywiadau yn Wy 2), Pen 57, a'r Vetustus (copi yn H 26 ac amrywiadau yn Pen 49). Mae cytundeb helaeth rhwng y rhain, ac felly gellir sefydlu'r testun yn bur hyderus ar y cyfan. Nid yw tystiolaeth y copïau eraill yn bwysig o ran sefydlu testun, gan eu bod yn tarddu'n anuniongyrchol o'r Vetustus (C 7 ar gof efallai, fel y gwelir yn llau 1 a 15).
Dwy linell allweddol sy'n rhannu'r llsgrau cynnar yw 5 ac 16; yn y ddwy hyn gwelir cytundeb rhwng Ll 27 a LlGH yn erbyn Pen 57 a'r Vetustus. Ac er mai darlleniadau'r rhai olaf sy'n rhoi'r synnwyr gorau ar yr olwg gyntaf (fel y gwelir yn GDG), mae'n haws esbonio'r rheini fel datblygiad o ddarlleniadau Ll 27 a LlGH nag fel arall. Er bod testun LlGH yn debyg iawn i un Ll 27 (fel y gellid disgwyl o gofio bod y ddwy lsgr yn perthyn i ddwy gangen o'r un teulu), fe ymddengys fod nifer o ddarlleniadau LlGH yn annibynadwy. Yn Pen 49 yn unig y ceir 13–14 yn nhestun GDG; mae'n debyg bod y cwpled hwn yn LlGH, ond ni ellir bod yn sicr am hynny gan nas nodwyd yn Wy 2. Mae'r ll. gyntaf yn debyg iawn i GDG 113.23, ac fe ymddengys i rywun lunio cwpled newydd ar sail atgof o'r ll. honno. Dewisodd Parry ddilyn Pen 57 yn bennaf, ond mae nifer o'i darlleniadau'n unigryw ac yn amheus (llau 3, 4, 7, 10).
1. Anodd dweud pa un ai brawddeg annormal sydd yma, ynteu cyfarchiad a chymal perthynol. (Cymh. 'Y ferch borffor ei thoryn' GDG 56).
2. Cywiriwyd y gwall hoen i heul yn Pen 57, arwydd o ddibynnu ar y cof mae'n debyg.
3. Pen 57 yn unig sydd o blaid darlleniad GDG, cyd bai; disgwylid treiglad yn dilyn y ffurf ferfol honno, ac mae'r synnwyr o blaid wedy beth bynnag.
cymwynas Tebyg mai gair teg am gyfathrach rywiol yw hwn, ond gallai gyfeirio at dâl a gafodd y ferch gan y bardd.
4. Pen 57 yn unig sydd o blaid darllenaid GDG, er, ac mae hefyd yn darllen glew yn lle glud. Cymh. 'Glud anianol y'i molaf' (34.17). Y geiriau yw'r llw y cyfeirir ato yn ll. 2.
5. Mae dewis yma rhwng o (Ll 27 a LlGH) a na (Pen 57 a'r Vetustus). Er bod na yn cyd-fynd â gwadawdd, mae o yn gystrawen adnabyddus mewn llwon (cym 117.38). Yn seinegol gellir cynnig datblygiad fel hyn: eurddyn o i eurddyn no i eurddyn na. Ceir llinell debyg iawn gan Ieuan Gethin yn ei gywydd i Owain Tudur yn y carchar: 'O chyfyrddodd, wych f'eurddyn' ( Y Flodeugerdd Newydd, 120).
Ymi Ffurf Gymraeg Canol sy'n cyfateb i imi, gw. GMW 60. Dylid ei deall gydag aelod noeth ll. 8.
7. Mae Pen 57 ar wahân i'r lleill i gyd yma gydag ail enit wywlw anoeth. Mae eiliw yn air cyffredin gan DG (cymh. eiliw Enid 97.50). Merch Yniwl Iarll a gwraig Geraint fab Erbin oedd Enid, a'r 'uorwyn gloduoraf', gw. Robert L. Thomson (gol.), Ystorya Gereint uab Erbin (Dublin, 1997), 19 (ll. 546), a TYP3 349–50.
anoeth Un n sydd yn ymhob copi; mae sawl enghr. o'r gair hwn gan DG yn yr ystyr 'rhyfeddol', ac mae'r ystyr yn gryfach felly nag o ddarllen annoeth fel yn GDG.
Elid Ffurf amhrs.grch. y ferf myned, gw. GMW 129 a 133. Yr ergyd yw bod y bardd yn dymuno i'r ferch dynnu'i geiriau yn ôl.
9. teuluwas Math o fardd canolig ei statws, os yr un ydyw â'r teuluwr, gw. GPC 349 a DGIA 13–16.
10. i'i Cymerir mai'r ffurf hon sydd y tu ôl i'r i neu y a geir yn y rhan fwyaf o'r copïau, a bod darlleniad Pen 57, yw, yn enghraifft o ddiweddaru.
11. Mae Pen 57 a Ll 27 yn gytûn o blaid fad, ac mae'n debyg bod y darlleniad wedi'i newid i frad yn y Vetustus er mwyn osgoi sain gadwynog. Ond gellir gwneud gair cyfansawdd fodd bynnag. Sylwer ar ferwdonn Pen 57 a fedwgron LlGH.
14. digri Dyma ddarlleniad Ll 27, Pen 49 a Pen 57; digrif a geir yn H 26.
croesaneth Sylwer ar y terfyniad ansafonol a brofir gan yr odl. Ar y croesan, math o fardd iselradd, gw. 97.30n. Rhoddir cryn ystod o ystyron i'r ffurf haniaethol croesanaeth yn GPC 605: 'ymddygiad nodweddiadol o groesan, ysmaldod, ffwlbri; anlladrwydd, trythyllwch, serthedd, maswedd; difrïaeth, sarhad, gwawd, gwatwar; afledneisrwydd, anweddeidd-dra'. Mae'n debyg mai 'anlladrwydd, trythyllwch' yw'r ystyron gorau, ond efallai gyda llai o islais moesol nag sydd gan y termau hyn heddiw.
15.deddyw Ffurf 3 un.prff. y ferf dyfod, gw. GMW 134. Mae doddyw (darlleniad Pen 57) yn amrywiad posibl arni. Cadarnheir deddyw gan y gynghanedd lusg yn 14.33.
16. Darlleniad Ll 27 a LlGH yw gwyr d(d)uw, ac mae'n ddisynnwyr ar yr olwg gyntaf. Er mwyn gwneud synnwyr ohono gellir tybio mai llw arall ar yr un patrwm â ll. 5 sydd yma, a bod y gair o wedi'i geseilio ar ôl do. Mae'n debyg bod y gynsail gyffredin wedi'i gopïo oddi ar dafod leferydd. Gellir cynnig datblygiad fel hyn: do o gŵyr Duw i do gŵyr Duw i do ni ŵyr Duw, a'r darlleniad olaf yn ymgais i wneud synnwyr o rywbeth yn sgil camglywed. A gellir esbonio'r treiglad annisgwyl gwyr dduw yn Ll 27 ac eraill fel dylanwad yr ymadrodd gwir Dduw. Mae posibilrwydd arall. Fel y dengys TC 210–11, digwydd yr ymadrodd ni ŵyr Dduw mewn ffurfiau cywasgedig deusill y mae mwy nag un ffordd o'u cynrychioli ar bapur; cymh. Pen 57 (niwrdduw), H 26 (niwyrdduw).