Bargeinio
Nid yw'r ferch yn cysgu gyda'i harglwydd,
ni all un arall ei denu.
Nid yw'r sawl sy'n gwylio fy anwylyd bur
4 yn cysgu o gwmpas ei thy.
Nid oedd hi'n fodlon derbyn llai
na chwephunt, ar ei llw, ni wnâi gymwynas [â
mi].
Fe roddwn innau bunt i'r ferch fach,
8 gwyddwn yn iawn sut i fargeinio;
ond na roddwn bunt ar unwaith
i'm merch annwyl a drafodai'n gelfydd a huawdl.
Byddwn yn rhoi chweugain ceiniog
12 i'r ferch euraid petai'n mynd yn feichiog,
ac fe ohiriwn roi'r chweugain
am chwe chyfarfod, byddwn yn cael fy ffordd.
O'r chweugain, swm rhyfeddol,
16 penderfynwn roi trigain ceiniog.
O'r trigain hyn (nid yw am fy nghael)
roedd deugain yn ddigon iddi.
A hefyd (gwerth fel breuddwyd y meddwl)
20 petai'n derbyn fy neugain ceiniog i gyd,
gormod yw cost y ferch ryfeddol o hardd
o gymaint ag yn agos i ugain [ceiniog].
Deuddeg ceiniog dan orfodaeth,
24 neu wyth yn dâl i'm merch fach.
Chwe cheiniog yw'r tâl mewn llaw,
pedair a roddwn rhag ofn iddi beidio.
O bedair i dâl o dair ceiniog,
28 ac o dair y newidir i ddwy.
O am gael benthyg arian,
roedd fy nghariad addfwyn i'w chael am geiniog.
Ni allaf roi arian i'r ferch wen
32 yn ei llaw, dim ond fy nymuniad.
'Os wyt ti am gael y corff (byddai'n nef i'm henaid)
fe'i ceid yn gyfnewid am dy gorff dithau,
ynghyd â llw mab dan ddail llwyn glas
36 nad yw'r fargen yn sâl, ferch, ond yn hytrach yn un
deg.'
Melltith iddo os myfi yw'r dyn,
os nad yw hi'n fodlon ar hyn, fy merch hy,
(nid er mwyn yr hyn na fyddai'r forwyn yn ei dalu)
40 a fydd yn rhoi mwy fyth er mwyn ei chael.