kywydd y vasnach
1 Ny chwsg vn gyda i hvnben
2 ny chaiff arall wall ar wenn
3 ny chwsg yn amgylch i chaer
4 ny warchaidw vy niwairchwaer
5 ny vynnai lle ny wnai les
6 na chweffynt yny chyffes
7 [506] minnav a wnn y vasnach
8 a roddwn bvnt ir ddyn bach
9 ond na rhown bvnt ar vnty
10 ym drwyadl gainddadl gy
11 chwaigain o chai vaichogi
12 ir ddyn wenn a roddwn i
13 ar chwaigain ar oed chwegwaith
14 a roddwn doywn ir daith
17 or chwaigain hynn ny vynn vi
18 digon oedd daigain yddi
19 a hevyd vriddwydfryd vraint
20 o dygai gwbl om daigaint
21 gormodd yw gwerth bvn gerth gain
22 aros agos i igain
23 dauddeg kainog dan dormach
24 ne wyth dan bwyth ym dyn bach
25 chwe chainog ywr llog yn llaw
26 pedair a rown kyn paidaw
35 a llw gwas dan ddail glasberth
36 nad hagr gwenn ond teg ywr gwerth
37 oerfel yddaw os myvi
38 ony vynn hynn ny vynn vi
39 nyd er a dalai r vorwyn
40 a Ry mwy vyth er i mwyn
Davydd ap gwilim ai kant