â â â Merch Gyndyn
1â â â Fal yr oeddwn yn myned
2â â â Dros fynydd, gwyr crefydd Cred,
3â â â A'm hen dudded amdanaf
4â â â Fal amaeth mewn hiraeth haf,
5â â â Nacha geingen ar y rhos
6â â â O forwyn i'm cyfaros.
7â â â Cyfarch, meddwl alarch mwyn,
8â â â Gwell iddi, ddyn gall addwyn;
9â â â Ateb a wnaeth ei phrydydd,
10â â â Ateb serch o'm tyb y sydd.
11â â â Cydgerdded fal merched Mai,
12â â â Ag oerddyn ni chydgerddai;
13â â â Gosyml fûm am forwyn lân,
14â â â Gosyml ni bu am gusan;
15â â â Canmol ei llygaid gloywon,
16â â â Canmolid prifeirdd heirdd hon;
17â â â Gofyn, cyn dêl rhyfeloedd,
18â â â A fynnai fi, fy nef oedd.
19â â â 'Ni chai, fab o ael y fro,
20â â â Un ateb, na wn eto.
21â â â Down i Lanbadarn dduw Sul
22â â â Neu i'r dafarn, wr diful,
23â â â Ac yno yn yr argoed
24â â â Neu'n y nef ni a wnawn oed.
25â â â Ni fynnwn rhag cael gogan
26â â â Wybod 'y mod mewn bedw mân.'
27â â â 'Llwfr iawn y'm bernir o'th serch
28â â â A dewrddyn yw dy ordderch.
29â â â Nac eiriach, diledach do,
30â â â Er cynnen y wraig honno.
31â â â Mi a wn blas o lasgoed
32â â â A'r ail nis gwybu erioed,
33â â â Ac nis gwybydd dyn eiddig
34â â â Tra fo llen ar bren a brig.
35â â â Cymryd fy ngheniad, forwyn,
36â â â Ceidwades, lladrones llwyn.'
37â â â Ni wnâi hocrell afrywiog
38â â â A wnaeth o'i gair, nith y gog;
39â â â Addaw ffôl a'm gwnâi'n llawen,
40â â â Addewid gwir fydd oed gwen.