Merch Gyndyn
Fel roeddwn i'n myned
dros fynydd, gwyr crefydd Cred,
a'm hen fantell amdanaf
4 fel amaethwr mewn hiraeth am yr haf,
dacw lafnes o forwyn ar y rhos
yn aros amdanaf.
Dyma gyfarch, meddwl alarch mwyn,
8 gwell iddi, ferch ddoeth, dirion;
atebodd hithau ei phrydydd,
ateb serchus i'm tyb i.
Cydgerdded fel merched Mai,
12 ni fuasai hi'n cydgerdded â dyn oeraidd;
didwyll fûm am forwyn lân,
nid didwyll fu hithau am gusan;
canmol ei llygaid gloywon,
16 canmoled prifeirdd hardd hon;
gofyn, cyn dyfod helyntion,
a fynnai fi, fy nef oedd hi.
'Ni chei, lanc o gwr y fro,
20 un ateb, ni wn eto.
Down i Lanbadarn ddydd Sul
neu i'r dafarn, wr haerllug,
ac yno yn y coed
24 neu yn y nef, fe wnawn oed.
Ni fynnwn, rhag ofn imi fod yn destun gwawd,
i neb wybod fy mod mewn coed bedw mân.'
'Yn llwfr iawn y'm bernir ynghylch fy serch atat
28 a dyn dewr yw dy gariad.
Paid ag ymatal, [ferch o] dras fonheddig,
oherwydd cynnen y wraig honno.
Gwn am blas o goed gwyrddlas
32 ac ni wybu neb arall amdano erioed,
ac ni wyr dyn eiddigeddus amdano
tra bo mantell ar goeden a brigyn.
Dyma ganu'n iach iti, forwyn,
36 ceidwades, lladrones llwyn.'
Ni wnâi llances bengaled
yr hyn a wnaeth hithau â'i hadduned, nith y gog;
gwnâi addewid ffôl fi'n llawen,
40 addewid gwir fydd oed y ferch.