â â â Merch Fileinaidd
1â â â Hoed cas, er hyd y ceisiwyf,
2â â â Hudol serch, ehudlas wyf,
3â â â Herwydd maint yw'r awydd mau,
4â â â Hely a diol haul Deau,
5â â â Hoen ewyngaen ar faen fainc,
6â â â Hoyw dduael, hi a ddiainc.
7â â â Ni chaf fi hi o'i hanfodd
8â â â A bun ni'm cymer o'i bodd.
9â â â Ni thawaf, od af heb dâl,
10â â â Mwy nog eos mewn gwial.
11â â â Mair a Duw a Mordëyrn,
12â â â Y rhai a wyl fy chwyl chwyrn,
13â â â A wnêl, hwn yw rhyfelnwyf,
14â â â Ymy y naill, am fy nwyf,
15â â â Ai buan farw heb ohir
16â â â Ai cael bun hael a byw'n hir.
17â â â Rhydebig, medd rhai dibwyll,
18â â â Na wn (panid hwn yw twyll?)
19â â â Prydu gair, pryd a garwyf,
20â â â Eithr i'r un, athro oer wyf.
21â â â O ganmol bun hun heirddryw
22â â â O gerdd dda, ac arwydd yw,
23â â â Ni rôi ryw borthmon llon llwyd
24â â â Er ugeinpunt a ganpwyd.
25â â â Ni roed ym, nawrad amwyll,
26â â â Gwerth hyn, ond gwarae a thwyll.
27â â â Mul anrheg oedd, mal unrhyw
28â â â O bai wr â bwa yw
29â â â Yn saethu, lle sathr angor,
30â â â Gwylan gair marian y môr,
31â â â Heb goel budd, heb gael y byllt,
32â â â Na'r edn ewinwedn wenwyllt.
33â â â Gwydn wyf, bwrw gwawd yn ofer,
34â â â Gwaeth no bwrw â saeth y sêr.
35â â â Pei prytwn, gwn gan henglyn,
36â â â Er Duw a brydais er dyn,
37â â â Hawdd y gwnâi erof, o hawl,
38â â â Fyw o farw, fwyaf eiriawl.
39â â â Ni wnâi hi erof fi faint
40â â â Y mymryn, gwenddyn gwynddaint.
41â â â Gwell gan fun, ni'm gad hun hawdd,
42â â â Ei hensail clyd a'i hansawdd
43â â â Na bod yn rhith, gair gwlith gwledd,
44â â â Gweirfyl gain, gwirfawl Gwynedd.
45â â â Ni newidiai, nef wawdair,
46â â â Lle mae â bod gerllaw Mair.
47â â â Ni aned merch, dreiglserch draidd,
48â â â Felenwallt mor fileiniaidd.
49â â â O gwrthyd hoen eiry gorthir
50â â â Y fau wawd, hon a fu wir -
51â â â Gwrthodiad y marchnadoedd
52â â â Gwrthodiaith f'annwyl wyl oedd -
53â â â Clwyf py glwyf, gloywferch feinwen,
54â â â Plwm a ffals, pla am ei phen!