Merch Fileinaidd
Hiraeth atgas, er ceisio cyhyd -
dyma serch hudolus; hygoelus a gwelw ydwyf -
oherwydd cymaint fy awydd,
4 hela a neilltuo haul Deheubarth -
o liw gorchudd o ewyn ar fainc garreg,
hardd ei haeliau duon - bydd hi'n dianc.
Ni chaf fi hi o'i hanfodd,
8 ac ni chymer y ferch fi o'i bodd.
Ni thawaf, hyd yn oed os af heb dâl,
mwy nag eos ym mrigau coeden.
Boed i Fair a Duw a Mordeyrn,
12 y rhai a wêl fy ffawd arw,
beri imi, dyma angerdd cythryblus,
oherwydd fy nhraserch naill ai
farw yn fuan heb oedi
16 neu gael y ferch a byw'n hir.
Tebyg iawn, medd rhai annoeth,
na allaf (onid twyll yw hyn?)
ganu'r un gair, boed imi garu [ei] gwedd,
20 ond i'r un un, athro gwael ydwyf.
Wedi moli merch fonheddig ei chwsg
â cherdd dda, a hysbys yw hynny,
ni roddai rhyw fasnachwr craff llwyd
24 y cyfan a ganwyd am ugain punt.
Ni roddwyd imi, naw rhodd ynfydrwydd,
werth hyn, ond yn hytrach chwarae a thwyll.
Anrheg ffôl ydoedd, yn debyg i
28 be bai gwr â bwa o bren yw
yn saethu, lle brath angor,
gwylan ger marian y môr,
heb argoel gwobr, heb gael y bolltau [yn ôl]
32 na'r aderyn gwyn gwyllt, gwydn ei grafangau.
Dyfal ydwyf wrth fwrw mawl yn ofer,
peth sy'n waeth na [cheisio] bwrw'r sêr â saeth.
Pe canwn, gwn gan englyn,
36 er mwyn Duw yr hyn a genais er mwyn yr eneth,
hawdd y gwnâi imi, o'i hawlio,
y marw'n fyw, yr eiriolaeth fwyaf oll.
Ni wnâi hi er fy mwyn
40 y mymryn lleiaf, yr eneth hardd a'r dannedd gwynion.
Mae'n well gan y ferch, nid yw'n gadael imi gysgu'n hawdd,
ei hen gartref clyd a'i harlwy
na bod yn debyg, ger gwlith gwledd,
44 i Weirfyl deg, gwir fawl Gwynedd.
Ni fuasai'n cyfnewid, moliant y nefoedd,
y lle y mae am gael bod gerllaw Mair.
Ni aned merch, trywaniad serch helyntus,
48 wallt melyn mor fileinaidd.
Os gwrthoda'r un o liw eira mynydd
fy mawl i, fe fu'n eirwir -
gwrthodiad y marchnadoedd
52 fuasai geiriau gomedd f'anwylyd fwyn -
fesul clwyf, y ferch loyw, fain a hardd,
plwm a ffals, boed pla am ei phen!