Owdl o waith Dafydd ap gwilim a elwir : kof Angharad
1 Didyrr deigr deivyr diafael em drem
2 drymed ym gof gwael
3 dodiad hoyw Angharad hael
4 dann ddaear duon ddwyael
5 Aelaw yw nad byw buail win addfed
6 awenyddfeirdd adfael
7 alaf ar waessaf wiwsail
8 aelaw fu oi hoywlaw hail
9 Heilwin fu medd llu llewfer kain Indec
10 kynn undydd brawolder
11 hoedl dangnef dref ond nef Nêr
12 hoedl yw hudol i lawer
13 Llawer bronn am honn ym hennardd a hyll[ ]
14 ail Essyllt wyl lwyshardd
15 llefain yw berf oferfardd
16 llwyr wae ni chware ni chwardd
17 Ni chwardd kowirfardd kyweirfad kwyn uth[ ]
18 kann eithyw Angharad
19 ni thau ym bronn eithr im brâd
20 nawd llif geirw neud llef girad
21 [126] Rhy irad dygiad di gudd fu orfod
22 drem fwyarfalch wrymrudd
23 rhieiniaidd fun rhannodd fudd
24 rhwymo derw rhom ai deurudd
25 Deurudd las fainwas wyf yn wael er gwenn
26 oedd gannwyll mewn eurael
27 darfod dyfod dwfn deigr gael
28 derfynn honn diwairfwyn hael
29 Haelaf digrifaf goreufun ynghaer
30 oedd Angharad wenllun
31 hoen ffysc da ddysc nid oedd un
32 huan wybr a hi nebun
33 Pan un am fun mor fyr i hoedlddydd
34 hidl ddeigyr am tragyr
35 pall rodfaeth pwyll iradfyr
36 pefr nith haul pa fronn ni thyrr
37 Gorhoffder eurner arnad dduw dofydd
38 i mae yngherydd am Angharad
39 Gyflowned i rhoist gyfluniad diwael
40 o ddawn gyfiawn gael gwr hael a rhad
41 Gann yt fynnu bu bwyll wastad i dwyn
42 yn rwyf ebrwydd frwyn yn refbridd frad
43 Gorugost rhydost rhediad i hoedlddydd
44 gwyr i chyrennydd a dofydd dad
45 Gares gweilch eurfeilch euriad ymystic
46 gorwyr i gynwric gorff bric bragad
47 Gwawr hoen ai goroen eigr fu gariad uthr
48 goruthr ac un rhuthr fu /n/ anrheithiad
49 Gorau bronn hoywdonn ehediad gwndraeth
50 gwyr i brodur maeth alaeth eiliad
55 Gwrygiant ardduniant aurddoniad fackwy
56 gwreigaidd o lywy gwragedd leuad
57 Gweddeidd bar gymar geimiad yngarthan
58 gwayw awchdan Ieuan kyflafan kad
59 Gwaedkoel saffwy rhwy rhwym gwlad ai gafael
60 gnowd gael llwydku hael lledaw gynheiliad
61 [127] Gwrthwyneb kalonn gartheniad gytkar
62 gwrddgar gwingar ddar gwengerdd iriad
53 Gafaeliodd bronn llech gyfaeliad am kawdd
54 i mi i neidiawdd oi mynediad
67 Goleuddyn ai hyn o had boneddfaith
68 goludiai wagiaith gwyl ddiwygiad
71 Gwennfun ddiwael hael heiliad ynghyfedd
72 gwinfwrdd aberthedd gwynnfardd borthiad
69 Gwaisc im klwyfawdd kawdd wyf keiniad bron[ ] dde[ ]
70 gwedd eiry frisc wisc wellt gwawr fuellt fad
75 Gwedd dig argywrdd deigr gawad ai gwlych
76 gwyrdd yw 'ngrudd a chrych fowrnych farwnad
73 Gwaiw i wicho trwo trawiad am gwarch[ ]
74 gwae em olygau y mau lygad
51 Gwrmael fun arael mae n irad nad by[ ]
52 geirw eigr unllyw ar gaer winllad
79 Gwaith drwg ir golwg hir wiliad yngha[ ]
80 gwaeth gyfing hiraeth gof Angharad
77 Gwennwynn yw i chwyn ni chad om ystlys
78 gwanas gowirlys gown ysgarlad
63 Gwisgodd am klwyfodd koddiad y galwer
64 gweler ar lawer galar lywiad
65 Gwenynen addien a wyddiad y dawn
66 gwawn garedigiawn garw i dygiad
Terfyn