â â â Esgeuluso'r Bardd
1â â â  Traserch ar wenferch winfaeth
2â â â  A rois i, fal yr âi saeth.
3â â â  Mi a euraf bob morwyn
4â â â  O eiriau mawl er ei mwyn.
5â â â  Och fi, drwg yw ei chof draw
6â â â  Amdanaf, mae'm diwynaw. 
7â â â  Bûm gynt, ger wyneb em gain,
8â â â  Anwylfardd i wen aelfain,
9â â â  A phellach, er na phallwyf
10â â â  Is gil serch, ysgeulus wyf.
11â â â  Gorweddais ar gwr addail
12â â â  Gyda'r ddyn dan goed ar ddail.
13â â â  Bûm grair, er na bai im grefft,
14â â â  Groengroen â'r ddyn gywreingrefft.
15â â â  Ni fyn fy mun, er fy mod,
16â â â  Fyd annibech, f'adnabod.
17â â â  Ni chaf mwy, eithr drwy drais,
18â â â  Wraig iefanc ar a gefais.
19â â â  Ni fyn merch, er ei pherchi,
20â â â  'Ngolud oedd, fy ngweled i
21â â â  Mwy no phei rhoid mewn ffair haf
22â â â  Barf a chyrn byrfwch arnaf.