Esgeuluso'r Bardd
Serch mawr ar ferch wen wedi'i maethu ar win
a rois i, fel yr âi saeth.
Mi a euraf bob morwyn
4 gyda geiriau mawl er ei mwyn.
Och fi, drwg yw ei chof draw
amdanaf, mae'n fy andwyo.
Bûm gynt, gerbron [yr] em gain,
8 yn fardd annwyl i ferch wen fain ei haeliau,
a bellach, er nad wyf yn peidio [â dilyn]
y tu ôl i serch, rwyf wedi fy esgeuluso.
Gorweddais ar gwr deiliach
12 gyda'r ferch dan goed ar ddail.
Bûm yn grair, er nad oedd imi grefft,
groengroen â'r ferch gywrain ei chrefft.
Ni fyn fy merch, er gwaethaf fy modolaeth,
16 fyd pechadurus, f'adnabod.
Ni chaf mwy, eithr drwy drais,
y wraig ieuanc a gefais.
Ni fyn y ferch, er ei pharchu,
20 -fy nghyfoeth oedd- fy ngweld i
mwy na phe rhoid mewn ffair haf
farf a chyrn bwch gafr arnaf.