Nodiadau: 145 - Esgeuluso'r Bardd

GDG 107

Yn y cywydd hwn y mae'r bardd yn cwyno bod ei gariad tuag at ferch ddienw bellach yn cael ei ddiystyru. Byddent gynt yn cydorwedd yn y coed, ond er bod ei deimladau cariadus ef yn parhau nid yw'r ferch bellach yn dymuno ei adnabod. Dywed na allai awydd y ferch i'w weld fod yn ddim llai, hyd yn oed petai'n gwisgo barf a chyrn bwch gafr mewn ffair.

Cynghanedd: croes 9 ll. (41%), croes wreiddgoll 1 ll. (4%), traws 9 ll. (41%), sain 2 ll. (9%), llusg 1 ll. (4%).

Ceid copi o'r cywydd hwn yn Llyfr Gwyn Hergest, a cheir copïau eraill pur gynnar yn C 7 a CM 5. O LlGH y daw testun Pen 49, ac er ei fod wedi ei gymhrau â CM 5, ni cheir unrhyw amrywiadau ac eithrio peth tanlinellu yn llinellau 6 ac 11.

6. mae'm   Cywasgiad o mae i'm (= 'mae yn fy'), gw. GMW 199.

7. ger wyneb em gain   Gellid deall ger wyneb yn llythrennol, ond nodir yr enghraifft hon yn GPC 1396 d.g. gerwyneb 'wrth, gerllaw, gerbron, yng ngŵydd, o flaen'; ni ddisgwylid i'r ardd. hwn beri treiglo. Awgryma GPC 1210 y gall em fod yn ffurf gysefin ar gem, ond ni roddir enghraifft o hynny yn GPC 1391 d.g. gem1 'maen gwerthfawr'.

10. ysgeulus   Dyma ffurf LlGH (ysgaulus), C 7 (ysgeulys) a CM 5 (ysgeylys). Dengys GPC 1242 fod ffurfiau mewn y- yn gyffredin yng nghyfnod Dafydd. Gall olygu 'esgeulus' ac 'wedi'i esgeuluso', a'r ail ystyr yw'r fwyaf addas yma.

12. ddyn   Ymddengys mai dyn oedd darlleniad LlGH, ond gallai hynny gynrychioli dyn neu ddyn. Benywaidd yw dyn yn ll. 14, a chymerir mai dyna ydyw yma hefyd.

15.   Cynghanedd groes wreiddgoll.

18. iefanc   Ffurfiau ag -f- a geir yn C 7 a CM 5. Mae'n debyg mai ievanc oedd furf LlGH, a gallai'r -v- gynrychioli f neu u. Mae'r gynghanedd yn ffafrio'r ffurf iefanc.

20. 'Ngolud oedd   Darlleniad GDG yw 'Loywled oedd'. Ond mae LlGH (a'r alius, mae'n debyg), C 7 a CM 5 o blaid y darlleniad Fy ngolud. Mae hwnnw yn peri bod y llinell yn rhy hir, felly hepgorer y rhagenw.

21. no phei   Darlleniad Wy 2 yw phei, a chan mai tuedd Pen 49 yw newid pei i pe, tebyg mai phei oedd ffurf LlGH.

22. Barf a chyrn byrfwch   Mewn nifer o wledydd Ewropeaidd ceir traddodiad bod y cwcwallt yn gwisgo cyrn ar ei ben, ac mae'n debyg mai cyfeiriad at hynny a geir yma. Nodir yn OED2 d.g. horn: 'Cuckolds were fancifully said to wear horns on the brow', a cheir enghreifftiau o horn yn y cyd-destun hwnnw o'r 15g. ymlaen. Sylwer hefyd fod cyrn (a uniaethid â nod Cain [Genesis 4:15]) yn nodweddion achlysurol mewn darluniadau canoloesol o daeogion, gw. Paul Freedman, Images of the Medieval Peasant (Stanford, CA, 1999), 90–2.