kowydd merch
1 Trasserch ar wenferch winfaeth
2 a rois i fal i rai saeth
3 [301] Mi a evra bob morwyn
4 o eirie mawl er i mwyn
5 och fi drwg {yw} i chof draw
6 am dani mae im diwynaw
7 bvm gynt gar bron dyn gain
8 anwylfardd i wen aelfain
9 a ffellach er na ffallwyf
10 isgil serch ysgeulys wyf
11 gorweddais ar gwr addail
12 gidar dyn dan goed ar dail
a ffellach er na ffallwyf
13 bvm grair er na bai ym grefft
14 groengroen am dyn gredingrefft
{gowreingrefft}
15 ni fynai mvn er fy mod
16 fyd anibech fydynabod
17 ni chaf mwy eithyr drwy drais
18 wraig ifangk er a gefais
19 ni fyn merch er i ff[e?]rchi
20 fyngolvd oedd fyngweled i
21 mwy na ffe rroid mewn ffair haf
22 barf a chyrn byrfwch arnaf
Dauidd ap gwilim ai kant