â â â Marwnad Rhydderch ab Ieuan Llwyd
1â â â Doe clywais, neur geisiais gêl,
2â â â Dair och ar lethrdir uchel.
3â â â Ni meddyliwn, gwn gannoch,
4â â â Y rhôi wr fyth y rhyw och.
5â â â Ni bu i'm gwlad, rhoddiad rhydd,
6â â â Na llif cwyn, na llef cynydd,
7â â â Na meingorn ar lethr mangoed,
8â â â Na chloch uwch no'r och a roed.
9â â â Pa dwrw yw hwn, pedeiroch?
10â â â Pefr loes, pwy a roes yr och?
11â â â Llywelyn, o'r syddyn serch,
12â â â A roddes hon am Rydderch,
13â â â Fychan, garllaw ei lân lys,
14â â â Ffyddfrawd Rhydderch ddiffoddfrys.
15â â â Och Amlyn o'i dyddyn dig,
16â â â Alaeth mamaeth, am Emig;
17â â â Och gwr a fai'n awch garu
18â â â Ei gâr, o fawr alar fu;
19â â â A'r drydedd och, gloch y Glyn,
20â â â Llef ail, a roes Llywelyn.
21â â â Pan gaewyd, saith guddiwyd serch,
22â â â Gwin rhoddiad, genau Rhydderch,
23â â â Darfu, gwn y'm dierfir,
24â â â Ben Deheubarth wen yn wir.
25â â â Darfu'r foes dirfawr o fedd,
26â â â Darfu daearu dewredd.
27â â â Gorwyn alarch yng ngwarchae,
28â â â Gorwedd mewn maenfedd y mae.
29â â â Natur boen, nid hwy yw'r bedd,
30â â â Syth drudfalch, no saith droedfedd.
31â â â Pregeth ryfedd oedd weddu
32â â â Dan hyn o dywerchyn du,
33â â â Gwybodau, synhwyrau serch,
34â â â Gwmpas rodd gampus Rydderch,
35â â â A'i wiwdawd digollwawd gall,
36â â â A'i gryfgorff gwyn digrifgall,
37â â â A'i gampau, chwedl doniau dawn,
38â â â A'i lwyddiant a'i oleuddawn,
39â â â A'i ras, gyweithas ieithydd,
40â â â A'i glod, och ddyfod ei ddydd!
41â â â Trwst oedd oer trist ddaearu,
42â â â Trugarog o farchog fu.
43â â â Trugaredd, ddisymlwedd serch,
44â â â A roddo Duw i Rydderch.