1 Traserch ar wenferch winfaeth
2 A roes i fal yr ae saeth
3 Mi a euraf bob morwyn
4 O eiriau mawl er ei mwyn
5 Och fi drwg yw ei chof draw
6 Am danaf mae'm difwynaw
7 Bum gynt ger wyneb em gain
8 Anwylfardd i wen aelfain
9 A phellach er na phallwyf
10 Isgil serch ysgaulus wyf
11 Gorweddais ar gwrr
addail
12 Gydâ'r ddyn dan goed ar ddail
13 Bum grair er na bai i'm grefft
14 Groengroen a'r ddyn gywraingrefft
15 Ni fynn fy mun er fy mod
16 fyd annibech f'adnabod
17 Ni chaf mwy eithr drwy drais
18 [65v] Wraig Ieuangc ar a gefais
19 Ni fyn merch er ei pherchi
20 fy-ngolud oedd fy-ngweled i
21 Mwy na phe rhoid mewn ffair haf
22 Barf a chyrn byrfwch arnaf
Da. ap Glm.
Darlleniadau Amrywiol
Exr per alium