1 Traserch ar wenferch winfaeth
2 a roes i fal i rae saeth
3 mi a vra bob morwyn
4 o eirie mawl er i mwyn
5 och fi drwg yw i chof draw
6 am danaf mae xxx
im dwynaw
7 bvm gynt yn wyneb em gain
8 anwylfardd i wen aelfain
9 a fellach er na fallwyf
10 is gil serch ysgeylys wyf
11 gorweddais ar gwr addail
12 gida dyn dan goed a dail
13 bym grair er na bai ym grefft
14 groengroen am dyn gowreingrefft
15 [365] ni fynai mvn er fy mod
16 fyn anibech fydnabod
17 ni chaf mwy eithr drwy drais
18 wraig ifanc ar agefais
19 ni fyn merch er i pherchi
20 yngolyd avr yngwelwed i
21 mwy na ffe rhoyd mewn ffair haf
22 barf achyrn byrfwch arnaf
dd ap gwylym ai cant