Cywydd merch a gollasai ei chydnabod ar DG
1 Traserch ar wenferch winfaeth
2 A roes i fal yr ai saeth
3 Mi a euraf bob morwyn
4 O eiriau mawl er ei mwyn
5 Och fi drwg yw ei chof draw
6 Am danaf mae diwynaw
7 Bum gynt ger wyneb em gain
8 Anwylfairdd i wen aelfain
9 A phellach er na phallwyf
10 Isgil serch ysgeulus wyf
11 Gorweddais ar gwr addail
12 Gyda'r ddyn dan goed îr ddail
13 Bum grair er na bai i'm greff
14 Groen=groen â'r ddyn goweingrefft
15 Ni fynnai mun er fy mod
16 Fyd anibech f'adnabod
17 Ni chaf mwy eith drwy drais
18 Wraig iefangc er a gefais
19 Ni fynn merch er ei pherchi
20 Fy ngolud oedd fy ngweled i
21 Mwy na phe rhoid mewn ffair haf
22 Barf a chyrn byrfwch arnaf
DG. a'i cant.