â â â Disgwyl yn Ofer
1â â â Deg nithiad, doe y gwneuthum,
2â â â Duw Llun, oed â bun, y bûm.
3â â â Lle gwelais hoen geirw, trais trai,
4â â â DduwSul, y hi addawsai
5â â â Ddyfod i eilwydd ofyn
6â â â Lle ni ddoeth llawen o ddyn.
7â â â Llawer golwg, ddyn llawen,
8â â â Llariaidd a gweddaidd yw gwen,
9â â â O frys haf a fwriais i
10â â â I fry parth â'r fro eiddi,
11â â â Tawel fryd, uwch y tywyn
12â â â Tua lle'dd oedd. Twyllai ddyn.
13â â â Morwyn yw, mirain awen,
14â â â A mefl i minnau-Amen!-
15â â â O rhof, yn rhad y'm gwadawdd,
16â â â I dwyll hon, ac nid dull hawdd.
17â â â O'r borau, ddyn goleuwefr,
18â â â Hyd anterth dan y berth befr,
19â â â O anterth, pridwerth prydydd,
20â â â Hyd hanner dau amser dydd,
21â â â O hanner dydd a honnir
22â â â Hyd byrnhawn a bery'n hir,
23â â â O byrnhawn, sôn digawn syml,
24â â â Hyd y nos, hoed annisyml,
25â â â Hirwyl yw ym ei haros,
26â â â Eurwawr hardd, ar war y rhos.
27â â â Pe bawn, myn y Pab annwyl,
28â â â Yn y llwyn, anneall hwyl,
29â â â Cyd y bu'r gwr, cyflwr cail,
30â â â Ebwch gwae, wrth y baich gwiail,
31â â â Gwyn ac addwyn ei hwyneb,
32â â â -Gwae fi!-ni welwn i neb.