Disgwyl yn Ofer | |
Deg nithiad, doe y gwneuthum, | |
Duw Llun, oed â bun, y bûm. | |
Lle gwelais hoen geirw, trais trai, | |
4 | DduwSul, y hi addawsai |
Ddyfod i eilwydd ofyn | |
Lle ni ddoeth llawen o ddyn. | |
Llawer golwg, ddyn llawen, | |
8 | Llariaidd a gweddaidd yw gwen, |
O frys haf a fwriais i | |
I fry parth â'r fro eiddi, | |
Tawel fryd, uwch y tywyn | |
12 | Tua lle'dd oedd. Twyllai ddyn. |
Morwyn yw, mirain awen, | |
A mefl i minnau–Amen!– | |
O rhof, yn rhad y'm gwadawdd, | |
16 | I dwyll hon, ac nid dull hawdd. |
O'r borau, ddyn goleuwefr, | |
Hyd anterth dan y berth befr, | |
O anterth, pridwerth prydydd, | |
20 | Hyd hanner dau amser dydd, |
O hanner dydd a honnir | |
Hyd byrnhawn a bery'n hir, | |
O byrnhawn, sôn digawn syml, | |
24 | Hyd y nos, hoed annisyml, |
Hirwyl yw ym ei haros, | |
Eurwawr hardd, ar war y rhos. | |
Pe bawn, myn y Pab annwyl, | |
28 | Yn y llwyn, anneall hwyl, |
Cyd y bu'r gŵr, cyflwr cail, | |
Ebwch gwae, wrth y baich gwiail, | |
Gwyn ac addwyn ei hwyneb, | |
32 | –Gwae fi!–ni welwn i neb. |