Disgwyl yn Ofer
    Gwneuthum ddoe oed â merch, dewisiad priodol;
    euthum ddydd Llun [i gwrdd â hi].
    Pan welais ddydd Sul [yr un] a'i gwedd [megis] ewyn,
4    yr oedd wedi addunedu, trais [sy'n peri] ing,
    y byddai'n dod i [gynnal] oed ymhlith [canghennau] plethedig y
		  coed
    ond ni ddaeth yr un lawen.
    Bwriais lawer edrychiad, dyn llawen [wyf],
8    tyner a hynaws yw'r ferch,
    mewn angen taer yn ystod yr haf,
    i fyny acw i gyfeiriad ei bro,
    yr un fodlon ei natur, uwchlaw'r mordir
12    i'r fan lle'r oedd. [Fy] nhwyllo yr oedd y ferch.
    Merch bur yw hi, grymus yw'r awydd [i'w chael],
    a gwaradwydd [fydd] i'm rhan, gwir yw'r gair,
    os ildiaf, cefnodd arnaf yn ebrwydd,
16    i dwyll hon, ac nid hawdd [yw gwneud hynny].
    O doriad y dydd, lodes ddisglair ei gwallt,
    hyd y bore o dan y llwyni teg,
    o'r bore, cosb [a roddir i'r] bardd,
20    hyd ganol y dydd a'i ddau gyfnod [cyfartal],
    o hanner dydd hyd y prynhawn,
    [ysbaid o amser] sy'n ymddangos fel tragwyddoldeb [yn fy
		  ngolwg],
    o'r prynhawn, digon diffuant oedd y siarad,
24    hyd iddi nosi, diamwys yw'r chwithdod [a deimlaf],
    cyfnod hir o aros i mi yw'r arhosiad amdani,
    yr arglwyddes hardd bryd golau, ar gefn y llethr.
    Pe bawn yn y goedwig, 
28    cyflwr na allaf ei ddirnad, myn y Pab annwyl,
    cyhyd ag y bu'r gwr o dan y baich gwiail,
    mewn cyflwr o gaethiwed [yr oedd hwnnw], gwaedd o alar,
    pur a hawddgar yw ei gwedd,
32    gwae fi, [byddwn yno yn aros] heb weld yr un enaid byw.