Nodiadau: 146 - Disgwyl yn Ofer

GDG 146

Yr ysbaid hir o amser y bu'r bardd yn aros am ei gariadferch yw pwnc y cywydd hwn, neu 'Ko: i ddisgwil i gariad a hithe heb ddyfod' chwedl H 26. Nid yw'n annhebyg i'r cywydd 'Lluniais oed ddywllun ys hir' a wrthodir i Ddafydd, GDG clxxix. Yn hwnnw fel yn y cywydd hwn disgrifir siom y bardd am na chadwodd ei gariad oed ag ef ac yn y naill gywydd a'r llall gwneir defnydd o chwedloniaeth a llên gwerin. Crybwyllir hanes y gŵr ar y lleuad yn 'Disgwyl yn Ofer' (gw. isod) a dygir i gof fotiff yr anifeiliaid hynaf yn 'Lluniais oed...'. Trafodir y cywydd hwnnw ynghyd ag arwyddocâd y motiff gan Helen Fulton, 'George Borrow and the oldest animal in Wild Wales', THSC 2003 [2004], 23–40. Awgrymir yn ib. 38 i olygydd GDG wrthod 'Lluniais oed...' i Ddafydd am fod y cywydd yn cynnwys deunydd poblogaidd ac am ei fod yn synio am Ddafydd yn fardd llys a luniai gyfansoddiadau cain a dyrchafol. Nid esbonnir pam y mynnai Thomas Parry arddel 'Disgwyl yn Ofer' sy'n cynnwys yr un math yn union o ddeunydd.

Gwelir bod cyfatebiaeth glos iawn rhwng y llawysgrifau sy'n tarddu yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol o'r Vetustus. Collwyd dilyniant o bum cwpled yn Wy 2 ond digwydd yn yr union safle yn y cywydd bedwar cwpled nas ceir yn y llawysgrifau eraill. Yn y ddau ddilyniant hyn disgrifir paratoadau'r bardd i gwrdd â'i gariadferch. Awgrymodd Thomas Parry mai 'braidd yn wan yw tystiolaeth y llsgrau. i'r cywydd hwn', gw. GDG 548, ond ni fynegodd amheuon ynghylch y cywydd 'Taith i Garu' a ddiogelwyd yn yr un dosbarth o lawysgrifau.

Cynghanedd: croes 10 ll. (31%), traws 9 ll. (28%), sain 9 ll. (28%) , llusg 3 ll. (10%), braidd gyffwrdd 1 ll. (3%)

1. deg nithiad   Gallai gyfeirio naill ai at Ddafydd neu at y ferch, ond os yr ail rhaid bod blas chwerw i'r ansoddair teg. Dyrnaid o gywyddau Dafydd sy'n agor â sangiad ('Gofyn Cymod', 'Y Fiaren', 'Y Cloc', 'Edifeirwch') ac ni threiglir y sangiad ar yr achlysuron hynny. Gallai hynny awgrymu bod y darlleniad deg nithiad yn llwgr. Gellid Dignithiad...duw Llun...y bûm; ar cnithiad 'cyffyrddiad, trawiad', gw. GPC 520. I'r 16g y perthyn yr enghreifftiau cynharaf ond digwydd y ferf cnithio yng nghanu dau fardd o'r 14g sef Dafydd ap Gwilym ac Iolo Goch.

3. trai   Rhoddir iddo'r ystyron 'tyllog, drylliedig' yn GPC 3551.

6–7. llawen o ddyn...ddyn llawen   Nid annichon fod y naill neu'r llall o'r ymadroddion hyn yn llwgr. Y mae'n bosibl hefyd i destun LlGC 560 (Lle ni ddoeth llawena ddyn) ddiogelu enghraifft o'r gystrawen a + ansoddair, cf. 39.30n, 114.1n.

9. brys   Un o'r ystyron a roddir i brys yn GPC 340 yw 'gofyn neu angen taer' a gweddai hynny yn y cyd-destun.

10.   Cynghanedd braidd gyffwrdd, a'r unig un yn y cywydd. Y mae'n bosibl fod ymgais yn G 3 i gryfhau'r llinell (ac felly hefyd yn llau. 5, 14 a 30) a'r darlleniad hwnnw a fabwysiadwyd yn GDG, sef Fry oedd, parth â'r fro eiddi.

11. tywyn   Dyfynnir y cwpled yn GPC 3687 d.g. a rhoddir iddo'r ystyron 'traeth, glan môr, arfordir'. Nid ystyrir yn GDG y posibilrwydd y gallai fod yn enw lle. Tâl cofio bod Dyddgu yn cael ei chysylltu â'r Tywyn ym mhlwyf y Ferwig yn ne Ceredigion, gw. D J Bowen, 'Dafydd ap Gwilym a Cheredigion', LlC 14 (1981–4), 163–209 (tt. 191–2).

13. awen   Gweddai'r ystyron 'awydd, tuedd, meddwl, athrylith', gw. GPC 241.

14. mefl    Y ffurf luosog meflau a gofnodwyd yn H 26 a Pen 49 am i'r ddau gopïydd o bosibl dybio mai cynghanedd sain oedd yn y llinell, ond diau mai M 212 a ddiogelodd ddarlleniad y Vetustus.

15–26.   Yn nhestun GDG cysylltwyd y cymal amod yn y cwpled cyntaf â'r gyfres o gwpledi lle y pwysleisir pa mor hir y bu'r bardd yn aros am y ferch. Dosbarthwyd y llinellau yn wahanol yma a chlymwyd y dilyniant wrth gwpled 25–6. Posibilrwydd arall fyddai diwygio o rhof ll. 15 i arhof (a sylwer ar ddarlleniad BL 10314, llsgr. o'r 18g ond sy'n cynnwys testun tra dibynadwy).

16.   Cyfatebiaeth d = -d d-.

17. borau   Y gynghanedd lusg yn mynnu'r ffurf hon. Digwydd cyn gynhared â'r 14g mewn testunau rhyddiaith ac yn y farddoniaeth, gw. GPC 301–2 a hefyd 153.41n.

20. hanner...amser   Trawsosodwyd y ddau air yn H 26 ond nid yw'r newid yn amharu ar y gynghanedd.

22. pyrnhawn    Ffurf a luniwyd trwy drawsosodiad. Dyfynnir y cwpled hwn yn GPC d.g. prynhawn gan ddilyn GDG ond pyrnhawn a gofnodwyd yn y llsgrau. hynaf (er na ddangosir hynny yn yr Amrywiadau) a diau mai dyma ddarlleniad y Vetustus.

  Twyll gynghanedd d (neu gynghanedd bengoll).

27. y Pab annwyl   Er bod cyfeiriadau at y Pab yn bur gyffredin yng nghanu'r beirdd peth anghyffredin yw gweld ansoddair yn goleddfu'r enw. Gellid annwyl 'hynaws' neu anwyl an+gŵyl 'digywilydd, haerllug' neu anhwyl 'anhwylus, claf' (a rhoi grym ansoddeiriol i'r enw). Cafwyd pump o babau yn ystod hanner cyntaf y 14g a phriodol fyddai'r awgrym eu bod yn anhwylus fel Dafydd ei hun a oedd yn glaf o serch. Yr oedd y pabau yn byw mewn cryn rwysg a neb yn fwy na Clement VI (1342–52) a gallai'r ffaith honno gyfiawnhau mabwysiadu'r darlleniad anwyl. Dewiswyd y darlleniad hawsaf annwyl gan farnu mai cyfeiriad cyffredinol at y Pab sydd yma yn hytrach na chyfeiriad penodol at bab unigol.

28. anneall    'Anwybodaeth'. I ganol yr 16g y perthyn yr enghraifft gynharaf a ddyfynnir yn GPC 134.

29–30. y gŵr...wrth y baich gwiail    Trafododd Eurys I Rowlands y modd y manteisiodd y beirdd ar y syniad cyfarwydd hwn yn 'Y baich drain', LlC 4 (1956–7), 172–6. Dangosodd fod y baich drain a ddygai'r gŵr ar y lleuad yn arwyddocáu poen (ar gyfrif pechod), carchariad ac ysbaid hir o amser, a bod y tair elfen hyn yn cael eu cyfleu yng nghywydd Dafydd.

30. gwae    Gellir bod yn sicr mai gwy a gopïwyd yn y Vetustus, a dyma ddarlleniad H 26, Pen 49 a M 212. Am nad oedd y ffurf yn un ystyrlon fe'i diwygiwyd i gwae yn G 3 a Bl e 1 (a dyma'r ffurf a fabwysiadwyd yn GDG) ac i gwiw yn LlGC 560. Gallai gwy fod yn ffurf ar yr ebychiad wi, gw. GPC 3733, er na ddiogelwyd unrhyw enghreifftiau cyfoes. Ymddengys fod y llinell yn rhy hir yn H 26 a Pen 49 ond glynwyd wrth eu darlleniad hwy.