1 Dec nithiad doe y gwneuthum
2 duw llun oed a bun y bum
3 Lle gwelais hoen geirw trais trai
4 dduwsul y hi a ddawssai,
5 ddyfod i ddeil-wydd ofyn
6 lle ni ddaeth llawen o ddyn
7 Llawer golwg ddyn llawen
8 llariaidd a gweddaidd yw gwen,
9 O frys haf a fwriais i.
10 fry oedd parth ar fro eiddi
11 Tawel fryd vwch y tywyn
12 tua lle ddoedd twyllai ddyn.
13 morwyn yw mirain awen
14 meflau i minnau Amen
15 O rhof yn rhad im gwadawdd
16 y dwyll hon ac nid dull hawdd
17 O'r boreu ddyn goleu wefr
18 hyd anterth dan y berth befr
19 O anterth prid-werth prydydd
20 hyd hanner dau amser dydd
21 O hanner dydd a honnir
22 I byrnhawn a beru 'n hîr.
23 O byrnhawn son digawn syml
24 hyd y nos hoed anissyml
25 hir wyl yw i'm ei haros
26 eur-wawr hardd ar warr y rhos
27 [210b] Pe bawn myn y pab annwyl
28 yn y llwyn an neall hwyl
29 Cyd y bu 'r gwr cyfl-wr cail
30 ebwch gwae wrth baich gwiail
31 Gwyn ac addwyn ei hwyneb
32 Gwae fi ni welwn ni neb.
dd ap Gwilym.