G 3, 210a–210b   
   
 
1    Dec nithiad doe y gwneuthum
2    duw llun oed a bun y bum
3    Lle gwelais hoen geirw trais trai
4    dduwsul y hi a ddawssai,
5    ddyfod i ddeil-wydd ofyn
6    lle ni ddaeth llawen o ddyn
7    Llawer golwg ddyn llawen
8    llariaidd a gweddaidd yw gwen,
9    O frys haf a fwriais i.
10    fry oedd parth ar fro eiddi
11    Tawel fryd vwch y tywyn
12    tua lle ddoedd twyllai ddyn.
13    morwyn yw mirain awen
14    meflau i minnau Amen
15    O rhof yn rhad im gwadawdd
16    y dwyll hon ac nid dull hawdd
17    O'r boreu ddyn goleu wefr
18    hyd anterth dan y berth befr
19    O anterth prid-werth prydydd
20    hyd hanner dau amser dydd
21    O hanner dydd a honnir
22    I byrnhawn a beru 'n hîr.
23    O byrnhawn son digawn syml
24    hyd y nos hoed anissyml
25    hir wyl yw i'm ei haros
26    eur-wawr hardd ar warr y rhos
27    [210b] Pe bawn myn y pab annwyl
28    yn y llwyn an neall hwyl
29    Cyd y bu 'r gwr cyfl-wr cail
30    ebwch gwae wrth baich gwiail
31    Gwyn ac addwyn ei hwyneb
32    Gwae fi ni welwn ni neb.
 
    dd ap Gwilym.