{ko: i ddisgwil i gariad a hithe heb ddyfod}
1 Deg nithiad doe i gwneuthvm
2 Die llun oed a bvn y bvm
3 lle i gwelais hoen geirw trais trai
4 ddusul yhi a ddowsai
5 ddyvod i eilwydd ovyn
6 lle ni ddoeth llawen o ddyn
7 llawer golwg ddyn llawen
8 llariaidd a gweddaidd yw gwen
9 o vrys haf a vwriais i
10 y vry parth ar vro eiddi
11 tawel vryd vwch y towyn
12 tua lle ddoedd twyllai ddyn
13 morwyn yw murain awen
14 a meflau i minau amen
15 o rhof yn rhad im gwadawdd
16 y dwyll hon ac nid dull hawdd
17 or boreu ddyn goleuwefr
18 hyd anterth dan y berth befr
19 o anterth pridwerth prydydd
20 hyd amser dau haner dydd
21 o haner dydd a honir
22 hyd byrnhawn a bery n hir
23 o byrnhawn son digawn syml
24 hyd y nos hoed anisyml
25 hirwyl yw ym i haros
26 eurwawr hardd ar warr y rhos
27 pe bawn myn y pab anwyl
28 yn y llwyn aneall hwyl
29 cyd y bur gwr cyflwr cail
30 ebwch gwy wrth y baich gwiail
31 gwyn ag addwyn i hwyneb
32 gwae vi ni welwn i neb
Dauid ap Gwilim