H 26, 340–1   
    {ko: i ddisgwil i gariad a hithe heb ddyfod}
 
1    Deg nithiad doe i gwneuthvm
2    Die llun oed a bvn y bvm
3    lle i gwelais hoen geirw trais trai
4    ddusul yhi a ddowsai
5    ddyvod i eilwydd ovyn
6    lle ni ddoeth llawen o ddyn
7    llawer golwg ddyn llawen
8    llariaidd a gweddaidd yw gwen
9    o vrys haf a vwriais i
10    y vry parth ar vro eiddi
11    tawel vryd vwch y towyn
12    tua lle ddoedd twyllai ddyn
13    morwyn yw murain awen
14    a meflau i minau amen
15    o rhof yn rhad im gwadawdd
16    y dwyll hon ac nid dull hawdd
17    or boreu ddyn goleuwefr
18    hyd anterth dan y berth befr
19    o anterth pridwerth prydydd
20    hyd amser dau haner dydd
21    o haner dydd a honir
22    hyd byrnhawn a bery n hir
23    o byrnhawn son digawn syml
24    hyd y nos hoed anisyml
25    hirwyl yw ym i haros
26    eurwawr hardd ar warr y rhos
27    pe bawn myn y pab anwyl
28    yn y llwyn aneall hwyl
29    cyd y bur gwr cyflwr cail
30    ebwch gwy wrth y baich gwiail
31    gwyn ag addwyn i hwyneb
32    gwae vi ni welwn i neb
 
    Dauid ap Gwilim