Marwnad Rhydderch ab Ieuan Llwyd
Clywais dair ochenaid ddoe
ar lechwedd uchel, fe geisiais guddio.
Rwy'n adnabod llawer o ochneidiau, [ac] ni feddyliwn
4 y byddai dyn byth yn rhoi'r fath ochenaid.
Ni bu i'm gwlad (rhoddwr dibrin)
na galar llifeiriol, na bloedd ceidwad cwn,
na chorn treiddgar ar allt berthog,
8 na chloch uwch na'r ochenaid a roddwyd.
Beth yw'r twrw hwn, pedair ochenaid?
Poen lem, pwy roddodd yr ochenaid?
Llywelyn Fychan, o drigfan cariad,
12 a roddodd hon am Rydderch,
gerllaw ei lys hardd,
cyfaill ffyddlon Rhydderch sydyn ei farwolaeth.
Ochenaid Amlyn o'i gartref galarus
16 am Emig, tristwch mam faeth;
ochenaid gwr a fuasai'n caru perthynas iddo
yn angerddol, deilliodd o alar mawr;
a'r drydedd ochenaid, cloch Glyn Aeron,
20 gwaedd debyg, yw'r un a roddai Llywelyn.
Pan gaewyd ceg Rhydderch,
y rhoddwr gwin (cuddiwyd serch saith gwaith),
darfu am arglwydd Deheubarth wen yn wir,
24 gwn fy mod wedi fy ngadael yn ddiamddiffyn.
Daeth i ben yr arfer o roi medd yn helaeth,
fe roddwyd dewrder yn y ddaear.
Alarch gwyn llachar wedi'i ddal yn gaeth,
28 mae'n gorwedd mewn bedd o faen.
Cyflwr poenus, nid yw'r bedd yn fwy
na saith troedfedd, syth a didrugaredd.
Moeswers ryfedd oedd gosod
32 o dan y pridd du hwn,
gwybodaeth, synhwyrau cariad,
ddawn gynhwysfawr ac ardderchog Rhydderch,
a'i wychder canmoladwy a doeth,
36 a'i gorff cryf gwyn ffraeth,
a'i gampau, sôn am ddoniau athrylithgar,
a'i ffyniant a'i ddawn ddisglair,
a'i rinwedd, ieithydd caboledig,
40 a'i glod, mae'n wae fod dydd ei farwolaeth wedi dod.
Swn digalon oedd y claddu trist,
bu'n farchog trugarog.
Boed i Dduw roi trugaredd
44 i Rydderch, serch cwrtais ei ddull.