Pen 49, 118v–119r |
|
|
|
|
1 |
deg nithiad doe y gwnaethvm |
2 |
duw llvn oed a bvn y bvm |
3 |
lle gwelais hoen geirw trais trai |
4 |
Dduwsvl y hi addawsai |
5 |
Ddyfod i eilwydd ofyn |
6 |
lle ni ddoeth llawen o ddyn |
7 |
llawer golwg ddyn llawen |
8 |
llaryaidd a gweddaidd yw gwen |
9 |
O frys haf a fwriais i |
10 |
fry parth ar fro eiddi |
11 |
Tawel bryd vwch y tywyn |
12 |
Tv a lle 'ddoedd Twyllai ddyn |
13 |
Morwyn yw mvrain awen |
14 |
A mefl i minne{u} Amen |
15 |
O rhof yn rhad ym gwadawdd |
16 |
y dwyll hon ac nid dvll hawdd |
17 |
Or borev ddyn golevwefr |
18 |
hyd anterth dan y berth befr |
19 |
O Anterth pridwerth prydydd |
20 |
hyd hanner dav amser dydd |
21 |
[119r] O hanner dydd a honnir |
22 |
hyd byrnhawn a bery'n hir |
23 |
O byrnhawn son digawn syml |
24 |
hyd y nos hoed annisyml |
25 |
hirwyl yw i'm i haros |
26 |
Evrwa{w}r hardd ar war y rhos |
27 |
Pe bawn myn y Pab annwyl |
28 |
Yn y llwyn annyall hwyl |
29 |
cyd y bv'r gwr cyflwr cail |
30 |
Ebwch gwy wrth y baich gwiail |
31 |
Gwyn ac addwyn ei hwyneb |
32 |
Gwae fi ni welwn i neb |
|
|
Da' ap Glm' |
|