â â â Cyngor gan Frawd Bregethwr
1â â â Doe ym mherigl y ciglef
2â â â Ynglyn aur angel o nef,
3â â â Ac adrodd pynciau godrist
4â â â Ac adail gron ac awdl Grist.
5â â â Disgybl Mab Mair a'm dysgawdd -
6â â â Fal hyn y dywad, fawl hawdd:
7â â â 'Dafydd o beth difeddw bwyll,
8â â â Digymar gerdd, da gymwyll,
9â â â Dod ar awen dy enau
10â â â Nawdd Duw, ac na ddywaid au.
11â â â Nid oes o goed, trioed trwch,
12â â â Na dail ond anwadalwch.
13â â â Paid â bod gan rianedd,
14â â â Cais er Mair casäu'r medd.
15â â â Ni thalai ffaen gwyrddflaen gwydd
16â â â Na thafarn, eithr iaith Ddofydd.'
17â â â 'Myn y Gwr a fedd heddiw,
18â â â Mae gwayw i'm pen am wen wiw,
19â â â Ac i'm tâl mae gofalglwyf
20â â â Am aur o ddyn, a marw 'dd wyf.'