Testun Golygedig: 147 - Cyngor gan Frawd Bregethwr

Cyngor gan Frawd Bregethwr

Doe ym mherigl y ciglef
Ynglyn aur angel o nef,
Ac adrodd pynciau godrist
4 Ac adail gron ac awdl Grist.
Disgybl Mab Mair a'm dysgawdd —
Fal hyn y dywad, fawl hawdd:

    'Dafydd o beth difeddw bwyll,
8 Digymar gerdd, da gymwyll,
Dod ar awen dy enau
Nawdd Duw, ac na ddywaid au.
Nid oes o goed, trioed trwch,
12 Na dail ond anwadalwch.
Paid â bod gan rianedd,
Cais er Mair casäu'r medd.
Ni thalai ffaen gwyrddflaen gwŷdd
16 Na thafarn, eithr iaith Ddofydd.'

    'Myn y Gŵr a fedd heddiw,
Mae gwayw i'm pen am wen wiw,
Ac i'm tâl mae gofalglwyf
20 Am aur o ddyn, a marw 'dd wyf.'