| Cyngor gan Frawd Bregethwr | |
| Doe ym mherigl y ciglef | |
| Ynglyn aur angel o nef, | |
| Ac adrodd pynciau godrist | |
| 4 | Ac adail gron ac awdl Grist. |
| Disgybl Mab Mair a'm dysgawdd — | |
| Fal hyn y dywad, fawl hawdd: | |
| 'Dafydd o beth difeddw bwyll, | |
| 8 | Digymar gerdd, da gymwyll, |
| Dod ar awen dy enau | |
| Nawdd Duw, ac na ddywaid au. | |
| Nid oes o goed, trioed trwch, | |
| 12 | Na dail ond anwadalwch. |
| Paid â bod gan rianedd, | |
| Cais er Mair casäu'r medd. | |
| Ni thalai ffaen gwyrddflaen gwŷdd | |
| 16 | Na thafarn, eithr iaith Ddofydd.' |
| 'Myn y Gŵr a fedd heddiw, | |
| Mae gwayw i'm pen am wen wiw, | |
| Ac i'm tâl mae gofalglwyf | |
| 20 | Am aur o ddyn, a marw 'dd wyf.' |