| Cyngor gan Frawd Bregethwr | |
| Ddoe mewn perygl fe glywais | |
| englyn coeth angel o'r nef, | |
| a datgan caneuon dwys | |
| 4 | a cherdd gyflawn ac awdl Crist. |
| Dysgodd disgybl Mab Mair fi — | |
| fel hyn y dywedodd, mawl rhwydd: | |
| 'Dafydd syber dy synnwyr ar un olwg, | |
| 8 | digymar dy gerdd, â gair da amdanat, |
| rho ar awen dy enau | |
| nawdd Duw, ac na ddywed gelwydd. | |
| Nid oes i goed, tri oed truenus, | |
| 12 | na dail ond anwadalwch. |
| Rho'r gorau i orwedd gyda merched, | |
| ceisia er mwyn Mair gasáu'r medd. | |
| Nid yw blaen gwyrdd coed yn werth ffeuen, | |
| 16 | na thafarn chwaith, dim ond iaith yr Arglwydd.' |
| 'Myn y Gŵr sy'n llywodraethu heddiw, | |
| mae artaith yn fy mhen oblegid merch wych, | |
| ac yn fy nhalcen mae archoll pryder | |
| 20 | oherwydd geneth odidog, a marw'r wyf. |