Aralleiriad: 147 - Cyngor gan Frawd Bregethwr

Fersiwn hwylus i'w argraffu

Cyngor gan Frawd Bregethwr

Ddoe mewn perygl fe glywais
englyn coeth angel o'r nef,
a datgan caneuon dwys
4 a cherdd gyflawn ac awdl Crist.
Dysgodd disgybl Mab Mair fi —
fel hyn y dywedodd, mawl rhwydd:

'Dafydd syber dy synnwyr ar un olwg,
8 digymar dy gerdd, â gair da amdanat,
rho ar awen dy enau
nawdd Duw, ac na ddywed gelwydd.
Nid oes i goed, tri oed truenus,
12na dail ond anwadalwch.
Rho'r gorau i orwedd gyda merched,
ceisia er mwyn Mair gasáu'r medd.
Nid yw blaen gwyrdd coed yn werth ffeuen,
16 na thafarn chwaith, dim ond iaith yr Arglwydd.'

'Myn y Gŵr sy'n llywodraethu heddiw,
mae artaith yn fy mhen oblegid merch wych,
ac yn fy nhalcen mae archoll pryder
20 oherwydd geneth odidog, a marw'r wyf.