GDG 136
'Cyngor gan Frawd Llwyd' a roes Thomas Parry yn deitl ar y cywydd hwn, a hynny, mae'n debyg, ar sail Wy 2 kow: kyngor ir Bardd gan vn or Brodur Llwydion. Ceir yn Wy 2 gynifer â phymtheg o gwpledi ychwanegol sy'n amlwg yn annilys (gw. testun llawysgrif; mae 3–4 a 15–16 yn eisiau), ac yn eu plith y cwpled hwn: parod frawd llwyd ymhob lle / i gyngor doeth rhag ange. (Y teitl yn G 3 yw I'r Angel ai cynghorawdd, ar sail ll. 2, ac felly hefyd M 212.) Er ei bod yn dra thebygol, o gymharu'r cywydd hwn â rhifau 148–50, mai un o'r brodyr bregethwyr sy'n cynnig cyngor i'r bardd, nid oes sôn yn y testun dilys am na brawd llwyd na brawd du. Fel cywydd 'Y Bardd a'r Brawd Llwyd' — 148.5–6 Mi a euthum at y Brawd / I gyffesu fy mhechawd — fe all mai cyffes yw'r cyd-destun, a gellir cymharu'r cyhuddiad o gelwydd yn llau. 9–10 â geiriau'r brawd Ffransisgaidd, 148.29–32:
Nid oes o'ch cerdd chwi, y glêr, Ond truth a lleisiau ofer, Ac annog gwŷr a gwragedd I bechod ac anwiredd.
Ond os rhywbeth mae'r pwyslais ar anwadalwch a byrhoedledd pethau'r byd yn debycach i rybuddion y brodyr Dominicanaidd yn 'Rhybudd y Brawd Du' (149) a 'Morfudd yn Hen' (150). Mae llau. 5–6 yn dwyn i gof 149.13–14 Llyma fal y cynghores / Y brawd â'r prudd dafawd pres, a chymharer Disgybl Mab Mair yn ll. 5 â 150.14 hudol i Fair, a gysylltir gan D.J. Bowen (1982, 103) ag ymlyniad y brodyr wrth gwlt y Forwyn. Ar hyn, gw. ymhellach David L. Jeffrey, The Early English Lyric and Franciscan Spirituality (Lincoln, 1975), 60–4.
Mynegodd Thomas Parry amheuon ynghylch dilysrwydd y cywydd, GDG t. 540: 'Nid oes dystiolaeth gref i'r cywydd hwn yn y llsgrau., ac oni bai ei gael yn P 48 gellid ystyried ei wrthod. Y mae'n edrych fel darn anghyflawn'. Gallasai ychwanegu bod cyfran y gynghanedd sain yn isel. Mae'n wir bod y gerdd yn ymddangos yn anghyflawn fel y mae — cyferbynner ateb cwta Dafydd yn llau. 17–20 (a chymryd mai araith uniongyrchol ydyw) â'i atebion i'r brawd llwyd a'r brawd du yn rhifau 148–9. Sylwer yn ogystal fod y llinellau hyn i'w cael yn 119.3–6 ('Edifeirwch'). Ar y llaw arall, mae'r thema, yr arddull a'r iaith (e.e. ynglyn, a casäu yn drisill) yn nodweddiadol o'i ganu, ac mae tystiolaeth y llawysgrifau mewn gwirionedd yn ddigon cadarn. Cynrychiola testun Pen 48 (ail hanner y 15g.) gam cynharach yn nhraddodiad y Vetustus. Diogelwyd fersiwn y Vetustus yn H 26 a G 3, ac yn Pen 49 a'r copïau ohono, ac mae'n debyg fod testun estynedig Wy 2 a'r copïau yr esgorodd arnynt yn seiliedig ar yr un fersiwn. Fersiwn y Vetustus hefyd sydd yn M 212 a LlGC 13078, y naill yn debyg iawn i G 3 a'r llall i H 26.
Trafodir y cywydd gan Morgan Thomas Davies, 'Dafydd ap Gwilym and the Friars: The Poetics of Antimendicancy', SC xxix (1995), 237–55, yn enwedig tt. 239–41.
Cynghanedd: croes 5 ll. (25%), traws 7 ll. (35%), sain 3 ll. (15%), llusg 5 ll. (25%).
1. perigl Cymerir mai at berygl ei enaid y mae Dafydd yn cyfeirio, ystyr sy'n gweddu'n dda i weddill y cywydd. Gw. yr enghreifftiau o'r ymadrodd perygl enaid (yn yr ystyr 'enaid' a 'bywyd') a ddyfynnir yn GPC 2784, e.e. WM 432.25–7 hyny uyd ynteu dros bedrein y uarch yr llawr. Ac hyny oed ymberigyl am y eneit. Cymh. hefyd yr ymadrodd ym mherygl angau, GPC 2784. Fe all mai perygl marwolaeth oherwydd clwyfau serch a olygir, cymh. llau. 17–20 lle yr ymddengys fod Dafydd yn chwarae ar gonfensiwn y gyffes ar wely angau. Y mae awgrym Thomas Parry, GDG t. 540, sef 'rhan o wasanaeth yr offeren' ar sail periglor 'offeiriad (plwyf), cyffeswr' (yn ôl un ddamcaniaeth, yr offeiriad sy'n darllen yr 'Oratio periculosa' yn yr Offeren) yn ddeniadol, ond ni restrir yr ystyr honno yn GPC ac ni wyddys am yr un enghraifft arall. Ond sylwer ar y disgrifiad o'r brawd du fel periglor yn 150.9–10 Periglor gerddor geirddoeth, / Barcutan, da y cân, Duw coeth. Yn ôl Huw Pryce, 'Duw yn Lle Mach: Briduw yng Nghyfraith Hywel', yn Lawyers and Laymen, ed. T. M. Charles-Edwards et al. (Cardiff, 1986), 58, 'Er bod tarddiad y gair periglor yn ansicr, y mae'n bur ddiogel y golygai offeiriad, ac offeiriad a wrandawai ar gyffes yn fwyaf arbennig, erbyn y ddeuddegfed ganrif fan bellaf'. Am grynodeb o'r damcaniaethau ynghylch tarddiad y gair, gw. ib. 68–9.
2. ynglyn Ffurf amrywiol ar englyn, gw. 39.5n. Y mae'r llinellau hyn yn dwyn i gof eiriau Dafydd wrth y Brawd Llwyd, 148.57–60 Pand englynion ac odlau / Yw'r hymner a'r segwensiau, / A chywyddau i Dduw lwyd / Yw llaswyr Dafydd Broffwyd?
3. pynciau Gydag ynglyn ac awdl, yr ystyr 'nodyn neu fesur cerddorol, cân' sy'n gweddu orau, gw. GPC 2942. Cymh. y disgrifiad o'r fronfraith yn 36.9–10 Cyn y glaw yn canu'n glau / Ar las bancr eurlwys bynciau, a 'Purdan Padrig' (14g.) a molyant y duw a seinei yndunt o gywydolaethu a phynckeu melys, SC viii/ix (1973/74), 192. Ond gellid yr ystyr 'pwynt o athrawiaeth neu grefydd', gw. GPC 2942, e.e. CLlGC iv, 78 E pwnc kyntaf or deuddec pwnc [yn y Credo] a perthyn ar y Tad Mawr o'r nef (13g.).
4. adail Un o'r ystyron a roddir i'r ferf adeilio yn GPC2 39 yw 'llunio (cerdd, &c.), prydyddu', e.e. GGGl XIX. 3 Adeilais gerdd. Gwedda'r ystyr 'cerdd' yma, peth sydd wedi ei adeilio, sef ei saernïo neu ei blethu, cymh. 113.31 Gwiw adail heb adfeiliaw am het fedw blethedig. Ceir adail yn drosiad am brydyddiaeth yn 24.43–4 Pawb a wnâi adail pybyr / O chaid gwŷdd a iechyd gwŷr, a chymh. OPGO 319 Owdwl o'i waith, adail yw ym / A dal eiliad owdwl Wilym.
awdl Grist Ar dreiglo enw priod genidol yn dilyn enw benywaidd, gw. TC 106.
5. Mab Mair Anodd dewis rhyngddo a mab duw Pen 48.
6. fawl hawdd Fe'i deellir yn sangiad, ond gallai fod yn wrthrych y ferf dywad. Tebyg mai at weniaith y cwpled nesaf y cyfeirir.
7. o beth Yr ymadrodd, mae'n debyg, a ddilynir fel arfer gan o beth arall, gw. GPC 2790 d.g. peth. Cymh. LlA 22 aydiw ygyulawn lewenyd yr awr honn ygrist. Obeth ymae. o beth arall nyt ydiw; BB 153 A drwc uu ganthaw o beth llat gwrleis; a da o beth arall. Er bod Dafydd yn fardd digymar, y mae'n defnyddio'i awen i'r perwyl anghywir.
8. digymar Diau mai dyma a gynrychiolir gan dygymar Pen 48 a dy gymmar y rhan fwyaf o lsgrau grŵp y Vetustus. Hon yw'r enghraifft gynharaf a gofnodir yn GPC (t. 1003).
11–12. Cymh. RC xxxiii, 440 Tegwch a gosged dynawl bryt cribdeiledic yw a buan. a chynt y ffy ac y difflanna noc anwadalwch blodeu gwanhwyn (c. 1400).
13. bod gan rianedd Cael cyfathrach rywiol, cymh. LlI 73 ac os gur uyd, o bedyr gan e wreyc, sarhaet yu ydau.
14. casäu Gair trisill yma, cymh. tristäu yn 149.30.
15. Ni thalai ffäen / ffeuen gwyrdd gwŷdd sydd yn y rhan fwyaf o lsgrau grŵp y Vetustus, oherwydd cyfrif ffäen yn ddeusill, mae'n debyg. Ond ni rydd hynny ystyr na chynghanedd foddhaol, ac mae cynghanedd gyflawn ymhob llinell arall. Mwy ystyrlon yw darlleniad Pen 48, nithale ffayn gwyrddvlayn gwy[ ], lle'r ymddengys fod y ffurf unsill gywasgedig ffaen yn odli â gwyrddflaen i ffurfio cynghanedd sain (o'i rannu'n gwyrdd flaen ceid sain gadwynog). Ategir y darlleniad gan G 3 Ni thale ffaen gwyrdd-gaen gwŷdd, a chan M 212 ni thale faen gwyrth gaen gwydd.
ni thalai ffaen Am enghreifftiau Saesneg cynnar o'r un ymadrodd, gw. OED2 ii, 18 d.g. bean, e.e. o Piers Plowman: To be corsed in consistorie She counted noght a bene.
16. n wreiddgoll.
iaith Ddofydd Darlleniad anffodus o anaddas yw iaith Ofydd grŵp y Vetustus (ac eithrio G 3), ond y mae'r sain yn debyg iawn i'r glust gan fod yr dd yng nghesail yr th.
17–20. Fel y nodir uchod, ceir yr un llinellau yn y cywydd 'Edifeirwch' (119). Awgryma R. Geraint Gruffydd (1987, 52) fod y cywydd hwnnw yn cynnwys 'eco trwm ac eironig o gywydd cynharach pan deimlai [Dafydd] y gallai o hyd wynebu'r Brawd Llwyd a'i herio ...'.
17. Myn y Gŵr a fedd heddiw Meddu yn yr ystyr 'rheoli'. Cymh. 74.34 'm Gŵr a fedd, a'r llw tebyg Duw a fedd yn GDG 7.18. Y llinell ddigynghanedd myn y gwr bie heddiw sydd yn Pen 48, a cheir yr un darlleniad yn rhai o destunau llawysgrif y cywydd 'Edifeirwch'.
tâl Gw. 119.5n.
gofalglwyf Pen 48 govalnwyf.
20. Vetustus Am aur o ddyn marw ydd wyf (cymh. GDG), ond unwaith eto y mae darlleniad G 3, a marw ddwyf, yn cefnogi Pen 48. Ailadroddir yr un gystrawen: gwayw ... am ..., gofalglwyf / Am ... .